MRS. ELIZABETH ELLIS. GRANVILLE, NEW YORK.
Mawrth 8fed, 1895, yn Granville, New York, Mrs. Elizabeth Ellis, anwyl briod Rees Pugh Ellis, yn 26 mlwydd a 6 mis oed.Ganwyd hi yn Aberllefeni, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Enwau ei rhieni ydoedd Edward ac Elizabeth Griffiths. Pan oedd yr ymadawedig yn dra ieuanc symudodd y teulu i Corris Uchaf.
Oddeutu chwe blynedd yn ôl daeth i'r wlad hon, ac ar ei glaniad yma priododd gyda Rees P. Ellis, yr hwn hefyd sydd o Corris. ac yn frawd i William O. Ellis a Richard P. Ellis, Utica, ac a ddaethai i'r wlad hon ychydig yn flaenorol iddi.
Enillodd ei chymeriad tawel a phrydferth iddi luaws mawr o gyfeillion; yn wir, yr oedd yn amhosibl peidio ei hoffi. Yn ei chystudd trwm arddangosai yr un tawelwch ag a'i nodweddai yn ystod ei bywyd. Roedd yn aelod dra dichlynaidd a ffyddlawn o eglwys y T. C. Ar ddydd ei chladdedigaeth cafwyd tystiolaeth ragorol i'r lle dwfn oedd iddi yn serch y gymydogaeth. Yn mhell cyn amser dechreu y gwasanaeth angladdol yr oedd y capel wedi ei orlenwi.
Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. John Williams. Claddwyd hi yn Mettowee Valley Cemetery, Granville.
Y mae iddi fam, tri brawd a dwy chwaer yn byw yn Nghymru. Cydymdeimlir yn fawr a'i phriod a'i dau bleatyn bach yn eu profedigaeth chwerw a'u dirfawr golled. Bu ei baban (geneth) farw yn bum wythnos oed yn mhen wythnos ar ôl ei mam.