MR. GRIFFITH W. ELLIS. MILWAUKEE, WISCONSIN.
Ar yr 20fed o fis Medi, bu farw yn y ddinas hon, yn 50 mlwydd oed, Griffith W. Ellis, "yr Hen Ddyrnwr," fel y gelwid ef. Ganwyd ef yn Beddgelert, man genedigaeth "Llewelyn ein Llyw olaf," a Gwilym Eryri.Am y cyfaill ymadawedig, gellir dweyd ei fod yn un hynod o gymwynasgar a charedig; bob amser yn llawen, ie, yn marw gyda gwen ar ei wyneb.
Achos ei farwolaeth ef ydoedd effaith cael ei daro gan electric wire, yr hon a dorodd tra yr oedd ef yn dylyn ei orchwyl yn mis Mai diweddaf. Effeithiodd hyny gymaint arno fel y methodd a chyflawni yr un diwrnod o waith wedyn. Y diwrnod cyn ei farwolaeth, teimlodd ar ei galon fyned i'r ffair, ond yn mhen ychydig oriau gwelwyd ar unwaith fod arwyddion angeu yn ei wynebpryd. Dechreuodd daflu gwaed i fyny, pryd yr aed ag ef adref yn uniongyrchol. Dyoddefodd gystudd arteithiol y noson ganlynol, a boreu dranoeth am 12 o'r gloch rhoddodd angeu derfyn ar ei boenau arteithiol.
Claddwyd ef y Sabboth canlynol. Aed a'r corff i'r capel, lle gweinyddwyd gan y Parchn. John E. Jones a Dr. Fred Evans yn bur effeithiol, a'r cór yn canu amryw ddarnau. Yr oedd yn un o'r angladdau mwyaf parchus welwyd er's amser - pob cenedl wedi troi allan i dalu y gymwynas olaf iddo; ac hefyd yr oedd y blodau orchuddient ei arch yn dangos parch i'r ymadawedig, ac i'r teulu. Canwyd ar lan y bedd.
Gadawodd Mr. Ellis wraig a chwech o blant - un mab yn Spencer, Iowa, a phump o ferched. Y mae Mrs. Ellis yn chwaer i'r Parch. William Matthews, Waukesha. Yr elorwyr oeddynt Gwilym Eryri, ei gefnder, ac R. C. Jones, Chicago; John O. Morris, William Williams, Thomas Evans a John R. Owen - oll yn ddynion cyfrifol a pharchus dros ben.
Gallaf ddweyd dros y weddw a'r plant, eu bod yn dymuno talu diolchgarwch i bawb am y caredigrwydd ddangoswyd tuag atynt yn yr amgylchiad.
Tuag wyth mlynedd ar hugain yn ól yr ymfudodd Griffith Ellis yn nghyda'i briod i'r wlad hon, gan ymsefydlu ar y cyntaf yn Columbus, Wisconsin, lle y ganwyd y ferch hynaf, yr hon sydd yn briod. Yn mhen dwy neu dair blynedd symudasant i Clay County, Iowa, ac yno y ganwyd saith o blant. Claddasant un ferch fach tuag wyth oed yno.
Yr oedd Griffith Ellis yn dwyn yr alwedigaeth o gigydd yno, ac yn cadw masnach eang. Yn mhen rhyw 12 mlynedd daeth ar eu meddwl drachefn i symud i'r dref hon, at eu perthynasau. Yn fuan ar ól eu symudiad, ymwelodd angau a hwy eto, gan gymeryd mab bychan pedair oed oddi arnynt. Yr oedd Griffith Ellis yn fedrus iawn gydag amryw orchwylion. Cafodd swydd gan y dref, sef palmantwr, a dyna fu ei waith nes tarawyd ef, fel y dywedwyd eisoes, gan y trydan.
Duw fyddo yn gysur i'w dad a'i berthynasau galarus yn Nghymru.
Ioan.