MR. HUGH EVANS. ROCKLIN, PLACER COUNTY, CALIFORNIA.
Awst 14eg, 1895, yn Rocklin, Placer County, California, Hugh Evans, yn 60 mlwydd oed.Bu yn dyoddef oddiwrth ddolur y galon am amryw wythnosau, ac er pob gofal cymerodd cyfnewidiad er gwaeth le, fel y daeth y diwedd yn sydyn.
Claddwyd ei weddillion yn Rocklin ar y 15fed, pryd y daeth Cymry yno o'r trefi a'r ardaloedd cylchynol.
Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch. Van Vleet (M. E.), yn cael ei gynorthwyo ar lan y bedd gan y Knights of Pythias, o ba urdd yr oedd yn aelod.
Genedigol ydoedd o Bethesda, Arfon. Daeth i'r wlad hon yn ieuanc, ac ymbriododd ag Elizabeth, merch Henry a Grace Owen, Dol Tre'rgarth, Arfon. Buont fyw lawer o flynyddau yn Quincy, Massachusetts a symudasant i Rocklin agos i chwe mlynedd yn ôl, lle y mae wyr a nith iddynt, David R. Owen a'i briod. Prynasant ddarn a dir yn y lIe hwn, a gwnaeth ant gartref cysurus iawn.
Cydymdeimlir yn fawr a Mrs. Evans yn ei thrallod.