MRS. JANE EVANS. WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.
Mawrth 23ain, 1895, yn ardal Seion, Welsh Prairie, Wisconsin, yn 83 mlwydd oed, Mrs Jane Evans. Penrhiw.Ganwyd hi yn 1812, yn Wyddfid, Dolyddelen. Ei rhieni oeddynt William ac Ann Williams. Yn 1839, priododd Thomas Evans, Talyllyn, Llanrhochwyn, yn agos i Trefriw, a ganwyd iddynt un mab a dwy ferch. Yn 1843 bu farw Thomas ei gŵr, ac yn 1817 daeth hi a'i phlant, yn nghyd a'i thad, dau frawd a dwy chwaer, i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn ardal Cambria, Wisconsin.
Claddwyd ei brawd hynaf, Robert, newydd iddynt gyraedd Cambria, Efe oedd y cyntaf gladdwyd yn mynwent Cambria. Ymhen tri mis ar ôl cyraedd Cambria prynodd y teulu gartref iddynt eu hunain yn agos i Seion, yr hwn a alwyd ganddynt yn Penrhiw. Rhagfyr 13eg, 1863, bu farw ei thad, yn 75 mlwydd oed, ac yn 1871, ei chwaer Catherine, yn 54 oed. Tachwedd 26, 1893, bu farw ei hunig fab Evan, yn 57 oed.
Bu Mrs. Evans yn fethiantus gan wendid yn ei haelodau am bum mlynedd. Rhagfyr, 1894, caethiwyd hi i'w gwely gan waeledd, a Mawrth 23ain hunodd yn yr lesu. Y dydd Llun canlynol hebryngwyd ei gweddillion gan dyrfa luosog i fynwent Cambria. Gweinyddwyd ar yr achiysur gan y Parchn. John R. Jones, R. H. Evans a G. Griffiths.
Cafodd Mrs. Evans ddygiad i fyny crefyddol. Derbyniwyd hi yn aelod eglwysig gyda'r T. C. yn Dolyddelen gan y Parch. Cadwaladr Owen: a bu yn aelod cyson yno a Seion, Welsh Prairie. Yr oedd yn wraig ddarbodus a chrefyddol. Gofalwyd am dani yn y modd mwyaf tyner gan ei merched Ann a Mary. Mae dau frawd iddi William Ap Williams a Rowland Williams, yn Langford, South Dakota.
G. GRIFFITHS.
Y Drych ~ Ebrill 25ain 1895.
MRS. JANE EVANS. WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.
Mawrth 23ain, 1895, yn ardal Seion, Welsh Prairie, Wisconsin, ar ol cystudd maith a chaled, bu farw Mrs. Jane Evans, Penrhiw, yn 83 mlwydd oed.Ganwyd Mrs. Evans yn y flwyddyn 1812, mewn tyddyn o'r enw Wyddfld, yn ardal Dolyddelen, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ei rhieni oeddynt William ac Ann Williams. Buont yn byw am dymor yn Penrhiw, Dolyddelen. Yr oedd i Mrs. Evans dri o frodyr a thair chwaer. Claddwyd el mam a dwy o'i chwiorydd yn Nghymru, yn y flwyddyn 1838.
Yn y flwyddyn 1837, priododd gwrthrych ein sylwadau ag un o'r enw Thomas Evans, Tal-y-llyn, Llanrhochwyn, ger Trefriw. Ganwyd iddynt dri o blant - un mab a dwy ferch.
Yn 1843 bu farw Tbomas Evans, ac felly gadawyd Mrs. Evans ei hunan yn nghanol trafferthion bywyd. Yn 1847, symudodd hi a'i phlant, yn nghyd a'i thad, dau frawd ac un chwaer, i'r wlad hon gan ymsefydlu yn ardal Cambria, Wisconsin. Claddwyd Robert, ei brawd hynaf, yn fuan wedi cyraedd Cambria. Efe oedd y cyntaf a gladdwyd yn mynwent Cambria. Yn mhen tri mis ar ol cyraedd Cambria, prynodd y teulu ddarn o dir i fod yn gartref yn ardal Seion, Welsh Prairle, yr hwn a enwyd yn Penrhiw. Dyma lle treuliodd Mrs. Evans weddill ei hoes.
Rhagfyr 13eg, 1863, bu farw ei thad, yn 75 mlwydd oed. Yn 1870, claddwyd ei chwaer, Catherine, yn 54 mlwydd oed. Tachwedd 26ain, 1893, bu farw ei hunig fab, Evan, yn 57 mlwydd oed.
Ddechreu 1889, cafodd Mrs. Evans waeledd trwm, yr hwn a lynodd wrthi am weddill ei hoes. Diffrwythodd ei haelodau fel nas gallodd symud cam heb gymorth rhywun arall. Ddechreu y flwyddyn hon, caethiwyd hi i'w gwely gan waeledd a gwendid; a Mawrth 23ain, huuodd yn yr Iesu. Y dydd Llun canlynol, hebryngwyd yr hyn oedd farwol o honi gan dyrfa fawr o'r ardalwyr i fynwent Cambria. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. John E. Jones, H. H. Evans a'r ysgrifenydd.
Cafodd Mrs. Evans ei derbyn yn aelod eglwysig yn dra ieuanc. Yn eglwys y T. C. yn Dolyddelen y derbyniwyd hi sef gan Cadwaladr Owen. O eglwys Dolyddelen y cafodd lythyr aelodaeth i'w gyflwyno yn eglwys Seion, Welsh Prairie, Wisconsin, yn 1847. Dyma yr unig ddwy eglwys y bu yn aelod eglwysig yn ei hoes faith o 83 mlwydd. Ni bu erioed dan un math o gerydd eglwysig. Yr oedd yn wraig ddarbodus a chrefyddol. Cafodd ddwyn iau Crist yn ieuanc, a'i ddllyn hyd y diwedd. Cafodd ei hamddifadu o foddion gras am bum mlynedd yn niwedd ei hoes; ond yr oedd y pryd hwnw yn mwynhau llawer o gysuron crefydd. Darllenodd lawer yn ei blynyddoedd diweddaf. Teimiai fel yr oedd yn nesau at y terfyn, nad oedd ganddi neb na dim ond Iesu Grist i bwyso arno am ei bywyd, a'i fod ef yn ddigon yn mhob amgylchiad.
Cafodd ofal manwl a da gan ei merched yn ei holl gystudd. Gadawodd i alaru ar ei hol ddwy ferch, sef Ann a Mary Evans, Penrhiw, Welsh Prairie, Wisconsin, a dau frawd, sef William Ap Williams a Rowland Williams, Langford, South Dakota. Nawdd Duw fyddo dros ei hanwyl blant a'i pherthynasau oll.
G. GRIFFITHS.