MR. EDWARD FRANCIS. NORTH EBENSBURG, PENNSYLVANIA.
Chwefror 7fed. 1895, yn North Ebensburg, Pennsylvania, Edward Francis, mab Evan ac Ann Francis, Llanerfyn, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, lle ganwyd ef Mehefin 13eg, 1817. Yn 1840 priododd Miss Elizabeth Breese o'r un lle, a deallwn fod yr undeb wedi bod yn un llwyddianus a dedwydd, a hyny am yr amser maith o 55 mlynedd. Yr oedd iddynt wyth o blant, ond nid oes ond pedwar yn fyw, sef Dafydd o Greely, Iowa; Evan o Delphos, Ohio; ac Abner a Thomas gartref er cysur i'w mam oedranus.Nid oedd Mr. Francis wedi bod yn iach er's rhai blynyddoedd, ac ni fu mor galonog wedi iddo dderbyn y newydd difrifol am ei fab Edward, yr hwn a gyfarfu a'i ddiwedd trwy syrthio trwy yr elevator yn Chicago, Illinois, ychydig fisoedd yn ôl.
Chwefror 3ydd, cafodd ergyd o'r parlys, ac er pob ym drech gofal oddiar law perthynasau a chyfeillion hoff parhaodd i wanhau yn raddol hyd nos Iau, pan ehedodd ei ran anfarwol at Dduw yr hwn a'i rhoes.
Yr oedd yn foneddwr perffaith, yn dad a phriod caredig a thyner, ac yn ddinesydd da.
Ymfudodd i'r wlad hon yn 1850. Bu fyw am beth amser tua Utica, New York, yna symudodd i South Ebensburg, lle y bu am chwe mlynedd cyn dyfod i North Ebensburg, lle y bu fyw ar dyddyn ei hun nes gorphen ei yrfa mewn tangnefedd.
Bu yn aelod ffyddlon gyda'r A. am yn agos i 40 mlynedd, ac am lawer o flynyddoedd yn ddiacon anrhydeddus. Ni chlywais neb yn ameu ei dduwiolaeb, ac ychydig oriau cyn ei farw dywedodd fod crefydd yn well na phobpeth arall.
Dydd Llun, er bod y ffyrdd yn anhawdd i'w teithio daeth tyrfa lluosog i dalu y gymwynas olaf i un o ragorolion y ddaear yn mynwent Hermon, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. R. R. Roberts (M. C.), a'r ysgrifenydd.