MR. JOHN R. GRIFFITH. HEOL 95, SOUTH CHICAGO, ILLINOIS.

Mai 3ydd, 1895, John R. Griffith, mab Robert ac Ellen Griffith. Heol 95, South Chicago, Illinois, yn 32 mlwydd oed.

Daeth y teulu i'r wlad hon o Tyddyn Islwyn, Llandegai, ger Bangor.

Yr oedd yn ddyn ieuanc cryf, iach a gweithgar; ond gafaelodd afiechyd ynddo ddwy flynedd yn ôl, ac aeth yn dyspepsia - arosai yn Valpariso. Indiana. Daeth adref ddeng niwrnod cyn marw at ei anwyl fam, (Methwyd cael hyd i gyfeiriad ei dad i anfon ato.)

Cafodd bob gofal gan ei anwyl fam a'i frodyr a'i chwiorydd: ond bu farw yn ddisymwth.

Claddwyd ef yn Oakwood, pryd y gwasanaethwyd yn dra effeithiol gan y Parch. W. H. Jones, South Chicago.

Y Drych ~ Mai 16eg 1895 1895.