MRS. NANCY HEALEY. UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Gorphenaf 21, 1895, yn nhy ei merch, Mrs. Edward Maher, 146 Blandina Street, Utica, New York, Mrs. Nancy Jones, gweddw James Healey.Ganwyd Mrs. Healey yn Sir Gaernarfon, Cymru, Mawrth 10fed, 1801.
Pan yn dri mis oed daeth gyda'i rhieni i'r wlad hon, gan lanio yn Philadelphia, lle bu brawd iddi farw. Symudodd y teulu i Steuben, ac yna i Remsen, o'r hwn le y daeth hi i Utica pan yn 16 oed.
Er fod ei mam yn ferch i weinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, pan ddaeth hi i Utica, ymunodd a'r Bedyddwyr Cymreig ar Broadway, a bedyddiwyd hi yn yr afon Mohawk.
Ymbriododd â James Healey yn 1819. Pabydd oedd ei gŵr, a phan bu ef farw yn 1864 ymunodd hithau a'r Pabyddion.
Bu yn fam i 13 o blant, o'r rhai y mae pedair merch yn fyw.