MR. ROBERT HUGHES. ASHLEY, PENNSYLVANIA.
Hydref 27ain, 1895, yn Ashley, Pennsylvania, o nychdod cyffredinol, Robert Hughes, a chladdwyd ef y dydd Mawrth canlynol, pryd y daeth tyrfa barchus yn nghyd i dalu iddo y gymwynas olaf.Caed gwasanaeth yn y capel, o'r hwn yr oedd yn aelod, y Parch. Hugh Hughes yn gweinyddu.
Ganwyd yr ymadawedig - 52 0 flynyddau yn ôl yn Pontarenig, Dolyddelen, Arfon, Gogledd Cymru, ac yno treuliodd y rhan fvvyaf o'i oes yn Nghymru, oddigerth ychydig flynyddau y bu yn Ffestinig, o'r hwn le y daeth i'r wlad hon oddeutu deng mlynedd yn ôl.
Gadawa ar ei ôl briod, mab a merch yn y wlad hon, ac un mab yn yr Hen Wlad, yr oll yn briod.