MR. THOMAS HUGHES. LONG CREEK, IOWA.
Rhagfyr 30ain, 1895, yn Long Creek, Iowa, yn 44 mlwydd oed, Thomas Hughes, mab John a Janette Hughes o blwyf Edeyrn, Sir Gaernarfon. Ganwyd ef yn Ty'nlon, yn y plwyf uchod.Ymfudodd i'r wlad hon yn ngwanwyn 1871. Wedi bod yn Long Creek am rai misoedd aeth efe a'i frawd Richard i California, lle yn mhen tua phum mlynedd y bu Richard farw. Dychwelodd Thomas i Long Creek, ac yn mhen rhai misoedd aeth i Gymru; ac ar ei ffordd yno cymerwyd ef yn glaf gan y typhoid fever, yr hyn a'i cadwodd yn hir yn Lerpwl. Yn mhen tua blwyddyn dychwelodd yn ol yma.
Yn 1883, ymbriododd â Miss Frances Davies, merch Evan Davies, ac ymsefydlasant ar fferm o'r eiddynt eu hunain.
Ganwyd iddynt chwech o blant, y rhai oll ydynt fyw i alaru am dad tyner a gofalus. Gadawodd hefyd dad oedranus a brawd a chwaer yn Nghymru, a thri brawd a chwaer yn y wlad hon, sef John a Griffith Hughes, yn Nhalaeth Washington, Hugh Hughes yn yr ardal hon, ac Elizabeth, priod Hugh Jones, Chicago, yr hon yn nghyd a'i nith, Mrs. Middleton, ddaethant yma i'r claddedigaeth.
Nid oedd gan Thomas Hughes gyfansoddiad cryf. Gwaelodd ei iechyd tua thair blynedd yn ôl, a dywedai wrth ei frawd ac eraill nad oedd ei ymddatodiad yn mhell; ond daeth y diwedd yn hynod o sydyn. Yr oedd y boreu olaf y bu byw yn ymddangos gystal ag arfer. Tua haner dydd pan yn dechreu hwylio i fyned i gladdedigaeth cymydoges, dywedodd wrth ei briod ei fod yn teimlo cur yn ei ben ac nad allai fyned. Erbyn ei bod hi ar gychwyn yr oedd ei boen wedi myned yn fawr iawn. Gan fod y plant henaf a'r holl gymydogion wedi myned i'r claddedigaeth, bu y wraig drallodus ei hun dros rai oriau yn ceisio ymgeleddu ei phriod tra yr oedd brenin y dychryniadau yn prysur ddatod rheffynau ei babell. Ychydig cyn wyth o'r gloch yr hwyrnos hono bu farw fel y tybir o'r apoplexy, yn mhen llai nag awr wedi y gallwyd cael meddyg ato.
Ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn claddwyd ei ran farwol yn barchus yn mynwent y Cymry. Gweinyddwyd gan y Parchn. Black (U. P.), Lloyd Williams (A.) a'r ysgrifenydd, yr hwn a draddododd bregeth angladdol y Sabboth canlynol yn addoldy Salem (T. C.), lle yr oedd ein brawd yn aelod eglwysig.
Un dystaw, tawel ydoedd, ond o gymeriad rhagorol. Gadawodd dystiolaeth ei fod yn ddiogel yn rhwymau y cyfamod. Pan yn cyflawni yr addoliad teuluaidd y bore olaf y bu byw, dywedir ei fod yn gweddio gyda thaerineb a llewyrch anarferol am barodrwydd i farw.
Caffed y weddw alarus a'i phlant bychain brofi grym y geiriau gwerthfawr "Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon yw Duw yn ei breswylfa santaidd."
W. D. EVANS