MRS. JANE HUMPHREY. IXONIA, WISCONSIN.

Mai 21ain, 1895, yn ei chartref yn Ixonia. Wisconsin, yn 75 mlwydd oed, Mrs. Jane Humphrey, gweddw Richard Humphrey, a modryb i G. H. Humphrey, Utica, New York.

Ganwyd hi yn Tyddyn Mabdu, Plwyf Llanarmon, Sir Gaernarfon, Medi 6, 1819. Ei rhieni oeddynt Jane ac Evan Humphrey.

Mawrth 29, 1845, priodwyd hi â Mr. Humphrey yn Llanarmon, Gogledd Cymru, ac ymfudasant i'r wlad hon yn ebrwydd wedyn, gan aros ychydig amser yn sefydiiad Waukesha, ond yn hydref y flwyddyn hono symudasant i wneyd eu cartref yn Ixonia.

Ganwyd iddynt chwech o feibion a dwy o ferched, y rhai sydd oll yn fyw ond un mab, Owen, yr hwn a fu farw yn Chwefror, 1863.

Yn Ionawr 1888 bu farw Mr. Humphrey yn dra sydyn, ac o hyny hyd y diwedd cadd y weddw bob gofal a thiriondeb a thynerwch yn bosibl gan ei mab William a'i briod, y rhai sydd yn preswylio yn hen gartref y teulu. Yr oedd Mrs. Humphrey yn aelod parchus yn eglwys y T. C. yn yr ardal, ac yn arddangos graddau helaeth o ffyddlondeb ac ymlyniad wrth ordinhadau crefydd i'r diwedd.

O ran ei nodweddion yr oedd yn ddarbodus a charedig, ac i fesur yn dawel, diymhongar a diabsen, a hyd ar a wyddom na feddai elynion o gwbl, ond yr oedd iddi lawer o gyfeillion a chylch helaeth o berthynasau, a daeth lluaws o'r cyfryw yn nghyd Sadwrn y 25ain i dalu y gymwynas olaf iddi, gan osod ei gweddillion i orphwys yn mynwent Ixonia.

Gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd.
O. O. JONES.

Y Drych ~ Mehefin 27ain 1895.