MR. RICHARD HUMPHREYS. RANDOLPH, WISCONSIN.
Ebrill 29ain, 1895, yn Randolph, Wisconsin, Richard Humphreys, yn 64 mlwydd oed. Yr oedd wedi bod yn wael trwy y gauaf, ond yn ymddangos yn gwella yn lled dda. Cymerwyd ef gan y darfodedigaeth cyflym, yr hwn a brofodd yn angeu iddo mewn byramser.Ganwyd ef yn Sir Feirionydd. Daeth i'r wlad hon yn 1853, gan aros am rai blynyddau yn Nhalaeth New York; yna symudodd i Wisconsin, a sefydlodd yn ardal Proscairon.
Yn 1871 priododd Miss Mary Moaes o Oshkosh, yr hon gyda dau o feibion sydd yn aros i alaru ar ôl priod ffyddlon a thad tyner a gofalus. Yn 1890, er mwyn i'r plant gael gwell mantais i gael addysg, symudodd y teulu i fyw i Randolph, lle y treuliodd ef weddill ei oes. Fel dyn yr oedd Mr. Humphreys yn ddinesydd da, yn gymydog tawel, ac yn ddiwyd iawn yn darparu ar gyfer ei deulu; fel crefyddwr yr oedd yn filwr da i Iesu Grist - nid un yn dylyn o hirbell oedd, ond yn y rheng flaenaf, bob amser yn barod i wneyd yr hyn a allai gydag achos y Gwaredwr. Bu yn gymorth mawr gyda'r cyfarfodydd gweddio, a chofir yn hir am ei weddiau taerion am lwyddiant teyrnas y Gwaredwr. a thros ieuenctyd yr oes. Yr oedd yn un o heddychol ffyddloniaid Seion.
Claddwyd ef yn mynwent Randolph, y Parchn. John R. Daniel, R. H Evans a David R. Jones yn gweinyddu.
T. D. ROBERTS.
Y Drych ~ Mai 23ain 1895.
MR. RICHARD HUMPHREYS. RANDOLPH, WISCONSIN.
Ganwyd Richard Humphrey yn Mallwyd, Sir Feirionydd, Mehefin 2ail, 1831.Mab ydoedd i Richard a Susanah Humphrey. Bedyddiwyd ef yn yr eglwys Mehefin 12fed, 1831.
Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1853, ac wedi aros am ychydig o flynyddoedd yn Nhalaeth New York sefydlodd yn Proscairon, Wisconsin.
Yn y flwyddyn 1871 ymbriododd a Miss Mary Moses, Peniel, ger Oshkosh, Wisconsin. Yn y flwyddyn 1890 symudodd y teulu i fyw i Randolph, lle y bu Mr. Humphrey farw Ebrill 29ain, 1895.
Yr oedd y brawd hwn yn nodedig am ei ddiwydrwydd gyda'r byd hwn, eto nid oedd neb yn barnu ei fod yn orfydol. Un o'i nodau uchel oedd talu i bawb. Ei awyddfryd mawr oedd, nid myned yn gyfoethog, ond cael digon o'r byd i gyfarfod. a'i rwymedigaethau. Cawn yr un peth yn ei nodweddu fel crefyddwr. Y mae ffyddlondeb gyda chrefydd yr un peth a diwydrwydd gyda'r byd. Yr ydym yn cofio yn dda ei fod yn cael ei gyfrif yn un o'r ffyddloniaid mewn dylyn moddion gras1 flynyddau lawer yn ol. Yr oedd yn ysgrythyrwr da, ac yn ddyn "Hyfforddwr" Charles. Yr oedd delw yr "Hyfforddwr" ar ei iaith grefyddol pan yn dweyd ei brofiad yn y seiat, a phan ar ei liniau yn y weddi gyhoeddus. Nid oedd yntau mwy na'r goreuon eraill yn mhlith yr hen sefydlwyr yn ddifai; ond yr oedd gonestrwydd gyda phethau y byd, a'i ffyddlondeb i ddylyn moddion gras mor nodweddiadol o hono nes y teilyngai barch byd ac eglwys.
Gadawodd i alaru ar ei ol un chwaer, Mrs. Ellen Edwards, yr hon sydd yn byw yn Wrexham; un brawd, Griffith Humphreys, yr hwn sydd yn byw yn Williamsburg, Iowa, a phriod a dau fab, y rhai sydd yn byw yn Randolph, Wisconsin. Dymunwn i'r fam a'r meibion nodded barnwr y gweddwon a thad yr amddifad. Disgyned deuparth o ysbryd eu tad yn eu rinweddau ar ei anwyl feibion, yw gweddi cyfaill eu tad.
Robert T. Roberts.