CADWALADR R. JONES. JERUSALEM, WAUKESHA COUNTY, WISCONSIN.

Y naill yn 95, a'r llall yn 88 mlwydd a 4 mis oed. "Ti a ddeui mewn henaint i'r bedd fel y cyfyd ysgafn o yd yn ei amser," Job v. 26.

Ganwyd Cadwaladr R. Jones mewn lle a elwid Llanelltyd, ger Dolgellau, Meirionydd, Gogledd Cymru. Enwau ei rieni oeddynt Richard John a Sarah ei briod. Nid oes sicrwydd manylach ar gael am ddyddiad ei enedigaeth na'r cofnodiad sydd ar lyfrau eglwys y plwyf am adeg ei fedydd. Cymerodd yr amgylchiad hwnw le Mai 14eg, 1801, felly ar adeg ei farwolaeth, Rhagfyr 15, 1895, yr oedd o fewn ychydig fisoedd i gyraedd ei 95 mlwydd oed. Er wedi cyraedd yr oedran mawr hwn, nid oedd ei synwyrau wedi anmharu ond ychydig iawn - ei feddwl yn glir, a'i olwg a'i glyw yn hynod o dda. Oni buasai am ei gloffni, yr hwn a achoswyd trwy godwm o'r wagen tua 15 mlynedd cyn ei farwolaeth, ni fuasai henaint wedi ei farcio yn agos gymaint a'r cyffredin.

Ar y 18fed o Ragfyr, 1895, ymgasglodd tyrfa fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddo, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. J. E. Jones, O. O. Jones, William Matthews, Daniel Williams J. W. Morgan (P.), a Sem Phillips (A.), ac y daearwyd ei weddillion yn mynwent Salem. Yr oedd y parch a ddangoswyd ar ddydd ei angladd yn profi fod y teulu yn sefyll yn uchel yn ngolwg yr ardal, a bod yr hen wr yn meddu ei ragoriaethau. Ar ol bod yn troi mewn cylchoedd pur gyhoeddus yn yr ardal, ac yn yr eglwys, am oes mor faith, a marw yn nghanol anrhydedd, rhaid fod ei gymeriad yn gorwedd ar seiliau da. "Y cyfiawn a fydd byth mewn coffadwriaeth."

Ar gyfrif ei oedran mawr, yr oedd y rhan fwyaf o gyfoedion Mr. Jones wedi ei ragflaenu i'r bedd, ac y mae hyny yn ei wneyd yn anhawdd cael ond ychydig iawn o'i hanes yn more ei oes. Yr unig oleuni sydd genym ar y cyfnod pwysig hwn o'i oes ydyw tystiolaeth o'i eiddo ef ei hun, sef ei fod gyda chrefydd er pan yn ieuanc, a chan ei fod yn hoff o ganu, deallwn ei fod wedi bod yn wasanaethgar iawn yn y cylch hwnw pan nad ydoedd ond llanc.

Melinydd oedd wrth ei alwedigaeth, a bu yn dylyn y gwaith hwnw yn Dolgellau a'r "Felin Fach," Llanegryn. Gadawodd yr alwedigaeth hon yn fuan wedi dod drosodd i America. Prynodd dir, ac ymroddodd i'w lafurio.

Bu yn briod ddwywaith, ond nid oes genym fantais yn awr i wybod pwy oedd ei wraig gyntaf, ond buont fyw gyda'u gilydd am tua 18 mlynedd, a ganwyd o'r undeb 5 o blant. Yn ngwanwyn y flwyddyn 1845, yn fuan wedi marwolaeth ei wraig, ymfudodd Mr. Jones gyda'r plant bach i'r America. Bu farw dau o'r plant pan yn lled ieuanc, ond y mae tri yn fyw yn awr. Treuliodd y ddwy flynedd gyntaf rhwng Milwaukee a Dodgeville. Yn ystod ei arosiad ef yn y ddinas y dechreuwyd cynal moddion Cymreig yn rheolaidd yn Milwaukee. Yr oedd moddion wedi eu cynal yn achlysurol cyn hyny. Yr oedd rhai teuluoedd wedi ymsefydlu mor fore ag 1840, a pha bryd bynag y byddai mintai o ymfudwyr yn aros yn y ddinas dros y Sul, ymgesglid yn nghyd i addoli, ac nid yn anfynych y byddid yn cael pregethu, gan y byddai pregethwyr yn fynych yn mysg yr ymfudwyr. Ond yn Awst, 1845, y dechreuwyd cynal moddion yn rheolaidd, a deallwn fod Mr. Cadwaladr Jones yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw i'w hwylio yn y blaen.

Yn gynar yn 1847 symudodd Mr. Jones gyda'r plant i ardal Waukesha, ac yn yr un flwyddyn priododd Mrs. Elizabeth Hughes. Profodd yr undeb yn fendithiol iawn. Ganwyd iddynt chwech o blant, ac ni fu teulu dedwyddach yn yr holl ardaloedd. Mewn caredigrwydd, cymwynasgarwch a ffyddlondeb gydag achos crefydd ni bu ei ragorach ar y ddaear.

Dewiswyd ef yn ddiacon yn eglwys Soar yn haf y flwyddyn 1867, ac ymddyddanwyd ag ef, a derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Dosbarth yn y cyfarfod a gynaliwyd yn Ixonia, Medi 11-12 yr un flwyddyn. Nid oes genym fantais i wybod pa mor hir y parhaodd ei gysylltiad ag eglwys Soar, ond o herwydd iddo symud lle ei breswylfod, trosglwyddodd ei aelodaeth eglwysig o Soar i Salem. Cafodd ei le fel diacon yno, a pharhaodd ei gysylltiad a'r eglwys hyd nes iddi ddadgorffori yn 1878, ac yr ymunwyd ag eglwys Jerusalem. Dewiswyd ef gan yr eglwys hon hefyd i wasanaethu ei swydd fel yn yr eglwysi eraill, yr hyn y bu ffyddlon i'w wneyd hyd ei fedd. Yn y blynyddoedd cyntaf o'i gysylltiad a Jerusalem, collodd yr eglwys chwech o ddiaconiaid trwy angeu, a naturiol oedd i ran fawr o'r gwaith a wneid gan y brodyr hyny syrthio ar law Mr. Jones fel yr hynaf a'r mwyaf profiadol oedd ar ol. O'r flwyddyn 1886 hyd ei farwolaeth cawn mai efe oedd arweinydd cyfarfodydd yr eglwys, a'r cyhoeddwr, a phan y dygwyddai y codwr canu fod yn absenol, gofalai ef am y rhan hono hefyd.

Bu yn School District treasurer o'r flwyddyn 1869 hyd ei farwolaeth. Etholwyd ef hefyd am rai tymorau ar Fwrdd Supervisors y plwyf. I'r blaid Werinol y perthynai, ac ar ddysgawdwyr y blaid hono yn unig y gwrandawai.

Cydnabyddwn ein rhwymedigaeth i'r brawd Thomas D. Jones, Genesee, am ei gynorthwy sylweddol i barotoi yr uchod, a derbyniais yr hyn a ganlyn oddiwrth y Parch. R. H. Evans, yr hyn a gynwysa mewn cylch cryno amlinelliad o gymeriad yr hen bererin yr ydym wedi ceisio ysgrifenu tipyn o'i hanes.

"Anwyl frawd: Da genyf roddi gair i mewn yn nghofiant Cadwaladr R. Jones, ar ol bod yn yr un eglwys ag ef am naw mlynedd. Yr oedd fel pawb o ddynolryw yn feddianol ar waeleddau yn gystal a rhagoriaethau, ond yr oedd ei waeleddau yn perthyn i'r dosbarth hwnw o ddrygau nas gellir bob amser eu galw yn bechodau. Gyda chryn lawer o briodoldeb y gallwn ddweyd fod ei waeleddau yn codi oddiar ei ddiniweidrwydd. Byddai fel plentyn yn cymeryd pawb yn mron, yn ddynion cywir a gonest, ac felly yn agored i gael ei dynu i mewn gan ddynion ystrywgar, castiog, ac ambell i dro yn derbyn colledion trwy hyny. Nis gallasai neb ei ysgwyd oddiar egwyddorion crefydd, na pheri iddo laesu dwylaw gydag achos yr Arglwydd.

Ond gyda golwg ar drefniadau a phethau amgylchiadol yr achos, er ei fod yn dwyn mawr sel dros y materion hyn, eto anaml y byddai ganddo farn addfed oddiar ymchwiliad personol. Nid oedd yn ddigon annibynol, ac felly yn agored i gael dylanwadu arno gan ddynion hirben, a'r rhai hyny heb gael eu cymell gan yr amcanion goreu bob amser. Nid ydym yn meddwl i'r hen frawd anwyl fod bum mynyd erioed yn cynllunio drwg, na chymeryd un ysgogiad gyda dim heb feddwl yn gydwybodol ei fod yn iawn. Yr oedd yn gywir yn ei amcan. Un o'i nodweddion mwyaf neillduol oedd ffyddlondeb. Byddai bob amser yn moddion gras ar y Sabboth ac yn yr wythnos, a gwnai ei ran yn ol ei allu gyda phob peth. Yr oedd yn lled hoff o gerddoriaeth, a buasai llawer seiat a chwrdd gweddi yn Jerusalem heb ddim canu oni bai fod C. R. Jones yn bresenol.

Unrhyw beth mewn cysylltiad a'r capel a'r eglwys y byddai galwad am dano, ceid Mr. Jones yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw i'w gario allan. Ni wnai arbed na thraul na thrafferth yn nglyn a hyny. Gwnai bob peth yn siriol a di-rwgnach. Byddai yn ysmala a digrifol yn ei gyfeillach, ac ni chai prudd-der ddod yn agos ato. Credwn mai dyma un rheswm dros ei hirhoedledd. Byddai yn agored i gael ei gynyrfu ar adegau, ac edrychai dipyn yn wyllt, ond byddai y cynyrfiad drosodd ar unwaith. Ni wnai ofidio llawer yn nghylch dim ond edrych yn wastad ar yr ochr oleu i bob peth. Teimlwn hiraeth ar ei ol."

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref, 1896.