DAVID JONES. MOUNT PLEASANT, RACINE, WISCONSIN.

Ganwyd David Jones, Hydref 7fed, 1817. Mab ydoedd i John Daniel a Susan Jones, Erwfaethlon. Towyn, Sir Feirionydd. Y mae dau o'i frodyr. Daniel a John, ac unig chwaer Jane. wedi marw, ac Evan yn fyw.

Ychydig o fanteision a gafodd David Jones yn moreu ei oes. Yr unig ysgol a gafodd oedd yr ysgol Sabbothol yn nghapel Maethlon, lle yr oedd ei dad yn flaenor. Treuliodd ei flynyddoedd yn Ngbymru yn bugeilio defaid ei dad.

Yn Mai, 1846, ymbriododd a Margaret, merch Daniel ac Ann Thomas. Gwyddgwiau, Towyn, Sir Feirionydd. Ar ol priodi daeth ef a'i briod i America. Ar y daith cymerwyd ei briod yn wael gau y typhoid, a buont yn yr hospital yn Quebec am chwech wythnos. Oddi yno daeth i Thompsonville, ger Racine, Wisconsin, lle y bu ar fferm am ddwy flynedd, pryd y prynodd fferm iddo ei hun yn Mount Pleasant, yn ymyl y capel, lle y bu fyw weddill ei oes, gan weled bendith Duw ar ei lafur. Ganwyd iddo ef a'i briod bedwar o blant: John, Daniel, Mrs. Jane Ann Edwards a Susie, y rhai gyda eu hanwyl fam sydd yn ei galar ar ei ol.

Yr oedd David Jones yu gymeriad lled anghyffredin, fel y gwelir yn ol y llythyrau isod gan ddau o weinidogion oedd yn ei adnabod yn dda. Fel hyn yr ysgrifena y Parch. Dr. Howell : "Cefais fantais dda i adwaen ac ymgydnabyddu a'r diweddar Mr. David Jones. Pan yn llanc ieuanc, ar fy nyfodiad i Dalaeth Wisconsin. treuliais haf 1866 yn ei wasanaeth ar y fferm; ac am dri gauaf bum yn myned i'r ysgol, gan wneyd fy nghartref yn ei deulu, a chyflawni ychydig wasanaeth am fy mwyd, a chefais ef a'i briod yn hynod garedig a thyner. Cefais lawer o hyfrydwch yn ei gymdeithas wrth drin y corn, lladd gwair, a thori a rhwymo'r yd, ac amrywiol oruchwylion ar y tyddyn. Yr oedd yn ddyn teg, cymedrol yn ei fesurau a'i ddisgwyliadau am swm y gwaith a ddisgwylid gael mewn diwrnod. Ni byddai na boreu godi na myned yn hwyr i gysgu: rhuthro i mewn ac allan yn anghymedrol. Gweithredai ar yr egwyddor na wnaed y byd mewn un dydd, ac nad oedd angen gwasgu mesurau gormodol o waith i ychydig amser.

Difyr chwedleuai am helyntion byd ac eglwys, ac yr oedd ganddo allu arbenig i adwaen personau, i ddeall eu hanes, i gofio eu henwau, ac olrhain eu hachau hyd genedlaeth a chenedlaeth. Darllenwr bycban ydoedd y pryd hwnw ar bob peth ond 'llyfr y llyfrau,' ond rywfodd gwyddai lawer. Dipyn yn helbulus ydoedd yn ei waith, a bler yn ei gynlluniau gyda goruchwylion hwsmoniaeth. ar y cyfan. Llawer o helbul a geid gyda'r da barus yn tori allan i'r yd a meusydd y cymydogion, o herwydd fences gwael. Eto, dyna oedd yn syn, ac yn ddirgelwch i mi y pryd hwnw, ei fod mor llwyddianus, a'r byd yn dyfod gydag ef, fel y daeth mewn blynyddoedd diweddarach yn amaethwr cyfrifol a cbefnog. Llifai y byd i'w feddiant heb gymaint o gynllun a threfn a llawer un mwy trefnus, ond llai llwyddianus.

Yr oedd ei symlrwydd, ei garedigrwydd, ei onestrwydd, a'i unplygrwydd yn nodweddion amlwg yn ei gymeriad, gan enill hoffder ac ymddiriedaeth ynddo. Gwell ganddo gymeryd cam na gwneyd cam, ac ni ddaliai ar gyfleusderau i ddial.

Yr oedd ei fywyd crefyddoJ yn ffrwyth cydwybod fyw. Ni unai nac yma nac acw, ond fel y dysgai hono iddo. Fel llyfr, y Beibl oedd ei gyfaill penaf. "Ni welais ef un amser yn treulio diwrnod gwlawog, neu Sabboth, heb ddarllen llawer ar y Beibl. Ni byddai byth heb adnod i'w dweyd fel ei brofiad a ffrwyth ei fyfyrdod. Gweddiai lawer ar ei Dduw, a gwnai hyny bob dydd, pan yn codi yn y boreu, yn hyglyw, neu yn ddigon uchel i'w ddeall os yn gyfleus i wrando. Da genyf ddeall iddo fod yn noddwr selog, am yr ugain mlynedd diweddaf o'i oes, i'r achos goreu yn yr eglwys. 'Yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth' o gariad syml at Waredwr ei enaid."

Dyfynaf yr hyn a ganlyn o lythyr y Parch. Dr. Roberts, yr hwn a fu yn weinidog am flynyddau yn Bryn Hyfryd a Racine: "Un o eifenau ei gymeriad fel dyn ac fel Cristion ydoedd gonestrwydd. Gwyn eu byd y rhai annichellgar. Dichon nad ellir dweyd am dano fel am ei gyd-flaenor, 'Gwyn eu byd y rhai addfwyn: ond gellir dyweyd am dano yn llawn ystyr y gair, Gwyn eu byd y rhai annichellgar. Byddaf yn teimlo yn dda fy mod wedi adnabod dyn mor onest a'r hen flaenor hwn. Nid oedd yn neillduol o wybodus mewn gwleidiadaeth nac mewn duwinyddiaeth: ond gwyddai i drwch y blewyn beth ydyw gwir grefydd, a beth ydyw bod 'yn y cywir hwnw, sef yn ei Fab Ef, Iesu Grist.'

HebJaw yr elfen o onestrwydd oedd yn ei gymeriad, yr oedd hefyd ynddo elfen o anrhydedd. Deuai yr elfen i'r golwg yn ei awydd i gynal crefydd yn barchus ac anrhydeddus. Ni fyddai David Jones yn gwario arian am ddim ond achos yr Arglwydd. O herwydd fod ei fferm a'i gartref o fewn ergyd careg i'r capel, bu yn nodedig o garedig i'r achos. Byddai ty David Jones yn agored bob amser, a'i briod hoff'a'i blant oll yn garedig iawn i groesawu y pregethwr a'r dyeithriaid a ymwelent a'r ardal ar achlysuron neillduol. Derbyniudd yr ysgrifenydd lawer o garedigrwydd yn ystod y blynyddoedd y bu yn gweinidogaethu yn Racine gan y teulu hwn. Bendithied y nefoedd ei briod a'i blant sydd yn galaru ar ei ol."

Nid wyf yn rhyfeddu at y teimladau cynes sydd yn mynwes y ddau weinidog anwyl uchod at yr hen bererin hwn. Yr oedd beth a ddeuai o'r achos yn y capel bach yn cael llawer o le yn ei feddwi a'i galon. Ar ol ymadawiad John Howeli, ei gyd-flaenor yn Racine, teimlai y cyfrifoldeb yn fawr. Gwelodd nad oedd fawr o obaith i'r achos barhau yn hir os parheid i'w gadw yn Gymraeg. Yn ngwyneb hyn, yn lle digaloni, a gadael i'r achos ddarfod, er nad oedd yn deall fawr o Saesneg, gofalai am hysbysu y cymydogion pan y byddai yno foddion yn Saesneg, a dywedai y byddai yn cael bendith wrth weled y capel bach yn llawn o bobl, ac y gwyddai pan y byddai yr eneiniad oddi uchod ar y moddion. Hoffais ef yn fawr wrth weled fod ei gariad at yr achos yn mor fawr, nes yr oedd yn barod i ymwadu o ran iaith er mwyn gwneyd ymgais teg i gadw yr achos yn fyw yn y capel bach.

Fel y sylwyd, teimlodd yn fawr yn ymadawiad ei gyfaill John Howell. Hiraethai yn ddwys ar ei ol. Yr oedd mewn pryder am dano: ac am nad oedd efe ei hun yn rhydd oddiwrth anhwyldeb peryglus, yr oedd John Howell mewn pryder am dano yntau. Yr hyn sydd hynod yn eu hanes ydyw, i'r ddau farw yr un dydd, Medi 12fed, a'u claddu yr un dydd. Medi 15fed, daeth tyrfa fawr at dy David Jones i dalu parch i'w goffadwriaeth. pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. W. A. Evans. Mankato; J, E. Jones, J. C. Jones. T. Evans (A.). a'r ysgrifenydd.

Gweddiwn am i'w weddw, sydd wedi ei chaethiwo gan gystudd ers amser maith, gael modd i barhau i ymddiried yn y Gwr y cafodd ei phriod ddangos cymaint o garedigrwydd iddo trwy yr holl flynyddoedd, ac ymgysured y plant yn yr addewid fod Tad yr amddifad eto yn fyw.
R. T. Roberts.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror, 1896.