MR. DAVID D. JONES. POWELL, SOUTH DAKOTA.

Rhagfyr 3ydd, 1895, yn Powell, South Dakota, David D. Jones, ar ôl pum wythnos o gystudd, yn 75 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Nanthir, plwyf Cwmtirmynach, ger y Bala, Sir Feirionydd. Mab ydoedd i Edward a Jane Jones.

Daeth i'r wlad hon yn 1852, gan sefydlu gyda'i chwaer, Mrs. Thomas J. Evans, yn awr o Racine, Wisconsin, yr hon ydyw yr unig un o'r plant sydd yn aros yn America. Tua 1856 symudodd i ardal Cambria, Wisconsin, a phrynodd ffarm oddeutu dwy fllltir a haner i'r gogledd o'r pentref.

Yn niwedd 1858 priododd Marion J. Pace, yrhon sydd wedi ei gadael yn weddw. Ganwyd iddynt saith o blant, sef Jane, Marion, George, Gwen, Maggie, David ac Edward, y rhai oddigerth George gawsant fod o amgylch ei arch, ac i dywallt deigryn ar ei fedd.

Ymsefydlodd yn Powell yn 1883, a chymerodd i fyny dir y llywodraeth iddo ef a'r plant; yna aeth yn ei ôl i Cambria, ac yn ngwanwyn 1888 daeth a'r teulu allan. Nodweddid D. D. Jones fel dyn tawel iawn, a chymydog ag oedd bob amser yn barod i wneyd cymwynas. Yr oedd yn naturiol feddianol ar lawer iawn o elfenau gwerth eu hefelychu. Un o'i gas bethau oedd gosod ei fys yn materion pobl eraill, ac nid oedd yn gwybod dim trwy brofiad am ragrith.

Claddwyd ef ddydd Gwener, y 6ed, gan dyrfa fawr o edmygwyr, pryd y gweinyddwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd yn Powell gan y Parch. John H. Griffiths.

Y Drych ~ Rhagfyr 26ain 1895.