MR. DAVID K. JONES. LEBO, KANSAS.
Medi 2ail, 1895, yn 54 mlwydd oed, David K. Jones, o ger Lebo, Kansas. Ei glefyd oedd yr hyn a eilw y meddygon yn gall stone, a bu farw o waed lifiad yr ymysgaroedd o achos hyny. Blinid ef er's rhai blynyddau, ond nid oedd y meddygon yn gwybod beth oedd ei glefyd hyd yn ddiweddar. Cafodd gystudd trwm a chaled, a bu yn ei wely am bum wythnos yn dyoddef arteithiau dirdynol; ond dyoddefodd y cyfan yn dawel ac amyneddgar.Ganwyd David K. Jones yn 1841, yn Llwyn'maly, Llangwm, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru.
Ei dad oedd David Cadwaladr Jones. Ni chafodd fawr o fanteision addysg, ond yr oedd o gyneddfau cryfion ac o farn bwyllog a phenderfynol, ac o dymer fywiog a siriol. Pan yn ddyn ieuanc symudodd o'i ardal enedigol i Lerpwl, lle y bu yn gweithio am dair blynedd. Yn Hydref, 1865, daeth drosodd i'r wlad hon a sefydlodd yn Columbus, Ohio, lle y bu yn gweini fel attendant yn yr hen Lunatic Asylum nes iddi losgi i lawt; yna bu am beth amser yn yr un sefydliad yn Newburg, hyd nes iddo yn ngwanwyn 1870 ymbriodi á Jane L. Jones o Newark, Ohio.
Yn union ar ól priodi daeth ef a'i wraig i Kansas, a sefydlasant yn Arvonia ar gychwyniad y sefydliad yno. Buont yma yn cadw yr hotel yn y lle am dros flwyddyn; yna symudasant ar fferm yn nghanol y prairies yn Sir Coffey, tua deg milltir i'r de-orllewin o Arvonia, a buont ar y lle hwn am rai blynyddau yn gweithio yn galed; ond o'r diwedd gwerthodd y lle hwnw a phrynodd le lawer gwell tua phedair milldir i'r dwyrain, a gerllaw y fan lle y mae tref Lebo yn awr - er nad oedd yno son am dref yn y byd y pryd hwnw.
Adeiladodd dy a phrynodd ychwaneg o dir at y lle cyntaf nes iddo gael lle rhagorol a da; ond pan oedd yn dechreu llwyddo yn y byd a Rhagluniaeth yn gwenu arnynt collodd ei anwyl briod Hydref 11, 1890, a gadawyd ef gyda phump o blant heb eu cwbl fagu. Tua dwy flynedd yn ól priododd drachefn ag un Mrs. Mary Beckwith, yr hon a brofodd ei hun yn gydmares gymwys a gwraig dda iddo, ac yn fam dyner a gofalus i'r plant. Yn awr y mae hithau wedi ei gadael i alaru ar ei ól, yn nghyd a phedwar o feibion ac un ferch, sef David Osborn, Robert Thaddeus, Amelia Ann, William Waldo a Lumley Cadwaladr Jones.
Gellir dweyd am ein cyfaill D. K. Jones, ei fod yn un o'r dynion cywiraf a gonestaf yn y wlad - ei air yn wastad gystal a'i lw; yn ddinesydd parchus, yn gymydog caredig a pharod, yn dad gofalus, yn briod tyner ac anwyl, ac yn Gristion cywir a dirodres. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig pan tua phymtheg oed yn ardal ei enedigaeth, a pharhaodd felly yn ddifwlch hyd y diwedd.
Yr oedd yn aelod parchus a ffyddlon o eglwys Gynulleidfaol Arvonia; ond gan ei fod yn byw mor bell o'r lle, nid oedd yn gallu bod mor aml a ffyddlon yn y moddion ag y dymunai.
Yr oedd yn gwbl ymwybodol o'i ymddatodiad, a phan yn gweini arno yn ei amser olaf dywedodd wrthym y buasai yn dda ganddo fyw er mwyn y plant, ond ei fod yn barod i farw, ac nad oedd arno ddim ofn marw a gwynebu byd arall. Cyn marw trefnodd ei holl amgylchiadau bydol, a gadawodd y teulu mewn amgylchiadau cysurus a dymunol. Claddwyd ef y dydd Mercher canlynol yn barchus yn mynwent Lebo, pryd y gweinyddwyd yn Gymraeg a Saesneg mewn modd teimladwy yn y ty ac ar lan y bedd gan ei weinidog y Parch. D. Todd Jones, Arvonia, a'r Parch. J. C. Miller, Lebo. Hefyd cymerwyd rhan wrth y bedd gan y Knights and Ladies Security, o'r hon urdd yr oedd yn aelod ac yr oedd wedi insurio ei fywyd ynddi am fil o ddoleri.
NICHOLAS DDU.