MR. EDWARD JONES. 31 ELM STREET, UTICA, NEW YORK.
Mehefin 3ydd, 1895, yn 68 mlwydd oed, Edward Jones. 31 Elm Street, Utica, New York.Ganwyd ef yn Rhudfudr, ger Llanuwchllyn; ond symudodd ei rieni i'r Bala tra yr oedd ef yn dra ieuanc.
Bu yn brentis o argraffydd gyda'r diweddar Mr Saunderson, Bala, am saith mlynedd. Wedi treulio ychydig amser fel gweithiwr yn y Bala, aeth i Lundain, lle y dylynodd ei grefft am ond byr amser. Cafodd gyfle i fyned i wasanaeth y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor, a bu yn gymorth mawr i'r diweddar Dr.Phillips, Henffordd, yn enwedig gyda darllen prawfleni Beiblau Cymreig. Yno dringodd i sefyllfa anrhydeddus, a chyn ymadael o Lundain yr oedd yn flaenor yn nghapel Wilton Square. Ar ôl bod yn Llundain am dair blynedd ar ddeg, o herwydd afiechyd, symudodd i'r Bala, gan brynu swyddfa argraffu y diweddar Mr. Saunderson.
Yn Rhagfyr, 1888, dylynodd ei deulu i Utica, lle y treuliodd weddill ei oes, gan ddylyn ei alwedigaeth fel cysodydd yn swyddfa y DRYCH. Yr oedd yn aelod o eglwys Moriah; ond hwyrach mai fel athraw yn yr Ysgol Sul y bu mwyaf defnyddiol gyda chrefydd; a bu yn un o ffyddloniaid cangen ysgol Peniel o'i sefydliad. Yn mhlith y rhai fuont dan ei ofal gellir enwi y Parch. T. C. Edwards, D. D., Bala, a'r Parch. Hugh Davies, Wilkesbarre, Pennsylvania.
Gadawodd weddw a phedwar o blant - Edward Lloyd, yn Auburn Theological Seminary, Annie, trained nurse yn New York, Emily, mewn Training School for Nurses yn Newark, New Jersey, a Catherine. Y mae dwy arall yn gorwedd yn mynwent y Bala - Barbara a Lizzie.
Dygwyddodd ei farwolaeth a'i gladdedigaeth deuddeng mlynedd i'r diwrnod i farwolaeth a chladdedigaeth Lizzie. Cymerodd y gwasanaeth angladdol le prydnawn ddydd Gwener yn y tŷ, ac yn nghapel Moriah, y Parchn. J. T. Stone (Pres.) a J. Hughes Parry, ei weinidog, yn gweinyddu; a chanwyd amryw ddarnau gan bedwarawd, sef Misses Nellie a Lizzie Lewis, W. R. Thomas a Joseph M. Watkins. Yr oedd yn bresenol gyn- rychiolwyr o'r Typographical Union a'r Cymreigyddion.
RESOLUTIONS OF RESPECT. At a special meeting of Typographical Union, No. 62. of the city of Utica, the following resolutions were adopted: Whereas, Death has removed from among us Edward Jones, a loyal and active member of Utica Typographical Union, No. 62, we desire to place upon the records of the organization an expression of our respect for him and the sense of the loss we have sustained;
Resolved, That in the death of Mr. Jones this Union has lost a devoted friend and faithful member. He was an excellent workman, honest and always attentive to his duties. As a companion he possessed many qualities which endeared him to us, and we shall continually hold him in kind remembrance.
Resolved, That our charter be draped in mourning for the period of thirty days, and that we attend the funeral in a body.
Resolved, That we extend to his family our sympathy, and that a copy of these resolutions be forwarded to them: also that they be spread upon the minutes of the union and published in Y DRYCH, Daily Press and Advocate.
R. E. JONES
JOHN LLOYD
G. A. SUKISKI