MR. WALTER GRIFFITHS, GRANVILLE, OHIO.
Ganwyd Walter Griffiths yn y Blawd-tŷ, plwyf Aberdaron, Caernarfon, yn y flwyddyn 1769.Ei rieni, Griffith a Mary Griffith, oeddynt yn arddel crefydd Mab Duw, yn aelodau eglwysig yn y Capel Newydd, a derbyniodd Walter lawer o addysg crefyddol yn moreu ei oes.
Yn 13 oed, aeth i'r mor, a threuliodd dair blynedd yn llongwr. Yr ydoedd o dymer fywiog, a byddai byrbwylldra ei natur yn achosi iddo ar droion le i wybod mai dyn ydoedd. Yn 18 oed ymwelodd Duw a'i gyflwr mewn modd grymus a grasol. Cododd y groes a chanlynodd yr Oen, yn aelod o eglwys Crist yn Pen-y-caerau. Yn y flwyddyn 1795 ymfudodd i America. Treuliodd rai blynyddoedd yn New York a Philadelphia.
Yn 1802, ymbriododd a Miss Mary Griflîths, a symudasant y flwyddyn hono i Steuben. Yn 1804 yr oedd yn un o'r pump a ddechreuasant yr eglwys Annibynol yn Steuben. Bu yn byw yn Steuben tua thair ar ddeg o flynyddoedd, yn wr parchus a defnyddiol yn y byd a'r eglwys. Yn 1815 ymfudodd i Granville, Ohio, lle bu ei breswylfod hyd ei ymddatodiad, Tachwedd 16, 1848.
Yr oedd yn ddyn o gyfansoddiad cryf, yr hyn, yn nghyd a'i fywyd sobr a gwastad a'i galluogodd i lafurio yn galed ac i fwynhau iechyd lled dda bron hyd ddiwedd ei hir oes. Yn ei gymeriad crefyddol yr oedd yn ffyddlon gyda'r moddion — haelionus yn ei gyfraniadau — ymdrechgar i wnenthur daioni — ac yn ei holl ymarweddiad yn harddu ffyrdd yr Arglwydd.
Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mawrth 1849.
MR. WALTER GRIFFITHS, GRANVILLE, OHIO.
WALTER GRIFFITH was born in Wales, in 1769.He emigrated to America, landed in New York in 1796. He married Mary Hughes in 1801 or 1802, of New York, born in Wales in 1776.
They settled in Oneida County, York State, remained until 1815; then with his wife and six children migrated to Licking county, Ohio, and settled in Granville township, on the farm now owned by their son Griffith Griffith, where they remained ungtil deceased. His wife died in 1835 - he in 1848. His vocation was farming.
They reared a family of eight children, Griffith, Timothy (died), Mary, Eleanor (died), Esther, Margaret, Anna and Samuel (died).
He was a consistent member of the Congregational church.