MRS. ELLENOR JONES. 105 WHITESBORO STREET, UTICA, NEW YORK.
Mai 14eg, 1895, yn sydyn iawn, Mrs. Ellenor Jones, anwyl briod William W. Jones, 105 Whitesboro St., Utica, New York, yn 88 mlwydd oed.Yr oedd wedi bod yn wael ar amserau er's blynyddau, ond bore dydd Mawrth yr oedd yn cyflawni ei dyledswyddau teuluaidd fel arfer. Tuag 11 o'r gloch pan golchi llestri, cafodd ergyd o'r parlys. Clywodd ei merch, Mrs. Pritchard, yr hon oedd mewn ystafell gyfagos, waedd a rhedodd i'r gegin mewn pryd i rwystro ei mam syrthio.
Anfonwyd yn uniongyrchol am y meddyg, Dr. J. D. Jones, ond yr oedd yr hen fam wedi tynu ei hanadl olaf cyn iddo gyraedd.
Merch ydoedd yr ymadawedig i Mr. a Mrs. Richard Williams, Felin Esgob, ger Bangor, lle ganwyd hi.
Yn 1839, ymunodd mewn glan briodas â William W. Jones, gyda'r hwn yr ymfudodd i America yn 1844. Gwnaethant eu cartref yn Utica. a buont byw yn ddedwydd (yn yr un tŷ ar Whitesboro Street am 41 mlynedd) nes i angeu eu hysgaru, ar ôl oes briodasol faith o 56 mlynedd.
Ganwyd iddynt unarddeg o blant, o'r rhai y mae tri yn fyw - Richard W. Jones, Cornelia Street; Mrs. Rhoda Humphreys (gweddw y Parch. Humphrey Humphreys) a Mrs. William Pritchard.
Yr oedd Mrs. Jones yn aelod gyda'r Wesleyaid Cymreig er yn ieuanc: ac ni ameuai neb ei chrefydd.
Claddwyd hi y dydd Iau canlynol, pryd y gweinyddwyd yn y tŷ ac yn y capel Wesleyaidd (Coke Memorial) gan y Parchn. Dr. Gwesyn Jones a Hugh Williams, Floyd.
Cydymdeimlir yn fawr a'r henafgwr parchus "William W." yn ei henaint a'i unigrwydd - yntau wedi gadael ei 80 mlwydd oed.