MRS. ELIZABETH JONES. BUCK MOUNTAIN, GER MAHANOY CITY, PENNSYLVANIA.

Mawrth 16eg, 1895, yn Buck Mountain, ger Mahanoy City, Pennsylvania, Mrs. Elizabeth Jones, priod Owen Jones, yn 33 mlwydd oed.

Genedigol ydoedd o Llandinorwig, Gogledd Cymru, a merch i Hugh ac Anne Jones.

Tachwedd, 1881, ymunodd mewn priodas ag Owen Jones, a bu iddynt wyth o blant, o'r rhai y mae tri yn fyw. Daeth hi a'i phriod i'r wlad hon tua dwy flynedd a haner yn ôl, ac ymsefydlasant yn Slatington, Pennsylvania. Daethant i Mahanoy City, a symudasant oddiyno i Buck Mountain.

Claddwyd hi yn barchus yn mynwent Mahanoy City, a dangosodd y Cymry a'r cymydogion yn gyffredinol lawer o gydymdeimlad a'i phriod a'r bychain yn eu cyfyngder.

Gweinyddwyd gan y Parch. Lot Lake, Mahanoy City. Yr Arglwydd fyddo yn nodded i'w phriod a'i blant bychain difam.
BONLLWYN.

Y Drych ~ Ebrill 11eg 1895.