GRIFFITH JONES. WEST PAWLET, VERMONT.
Diacon oedd y brawd uchod, ac un o'r cymeriadau cryfaf a rhagoraf yn mhlith diaconiaid ein Cyfundeb yn y wlad.Bu farw Ebrill 25ain, 1895. Llawenydd i ni yw fod ei ddarlun yn cael ei roddi i ddarllenwyr y "Cyfaill." Ganwyd ef yn y Gerlan, Lianllechid, Gogledd Cymru, Awst 22ain, 1818. Cyntafanedig John a Jane Humphreys ydoedd. Yn Cil Trefnus, Bethesda, y magwyd ef, ac y bu fyw nes ymfudo i America, Mawrth, 1857; a glynodd yr hen enw wrtho hyd y diwedd - Griffith Jones, Cil Trefnus.
Gorphenaf 24ain, 1860, priododd gyda Jane Williams, Dwygyfylchi, Caernarfon. Ganwyd ìddynt dri o blant, John a Lincoln, a Mary Jane, yr hon a fu farw Mehefin 15fed, 1887. Collodd ei wraig Hydref 27ain, 1870 (am ychydig nodion ar ei helyntion bydol, gwel y "Drych" Mehefin 20fed, 1895).
Un gwreiddiol iawn ydoedd - nid oedd yn debyg i neb a adwaenem. Yr oedd llawer o hynodrwydd yn perthyn i'w bersonolaeth, yn fewnol ac yn allanol. Nid oedd yn meddwl ac yn siarad fel pobl eraill. Yr oedd yn ddyn mawr a chryf o gorff - nid oedd yn hynod o ran taldra a phwysau, ond yr oedd ganddo frame eithriadol o gref. Credwn y buasai ei asenau dwbl, a'i fraich ewynog, yn ei wneyd yn ymosodydd peryglus, pe buasai yn defnyddio arfau cnawdol at ei elyn. Clywsom iddo roddi prawf o hyny unwaith. Flynyddoedd yn ol, yn Middle Granville, cododd y Gwyddelod yn mob yn erbyn y Cymry; a phan yr oedd yr hen ddiacon a'r gweinidog yn myned i'r seiat, cawsant square y pentref yn faes brwydr rhwng y ddwy genedl.
Diangodd y pregethwr fel colomen nefol am gysgod, ond safodd Griffith Jones yn syn am amser, ond pan welodd Wyddel mawr, a ystyrid yn ben-ymladdwr y pentref, yn taro Cymraes yn ei ymyl, cynyrfodd ei waed Cymreig, cododd ei ddwrn, a tharawodd y bwli i'r ddaear; a phan welodd y Gwyddelod gwympo o'u cawr, diangasant am eu heinioes.
Ond hynodrwydd mwyaf ei ddyn oddiallan oedd ei ben - yr oedd ei wyneb yn llawn mynegiant, a'i ben yn eithriadol o fawr. Byddai yn rhaid iddo roddi ei fesur am het, oblegid nis gallai gael yr un yn ddigon o faint yn ready made!
Llwyddodd y diweddar Mr. Ebenezer Jones i fyned ag ef at y penglogydd Fowler, ac meddai hwnw, pan osododd ei ddwylaw ar ei ben, "Dyma ben hollol Gymreig, a gwnaethai 'ben i un o Dywysogion Cymru.'
Mae ysgrif Fowler ar ei ben ger ein bron yn awr; a beth bynag yw ein barn am benglogyddiaeth, rhaid cydnabod fod hon yn ddarluniad cywir o Griffith Jones. Nis gallwn wrthsefyll y demtasiwn i ddyfynu o honi, er difyrwch i'r rhai oedd yn adnabod yr hen dad. "Yr ydych yn hynod benderfynol - mor anhyblyg a sefydlog a mynyddoedd Gwalia. Yr ydych yn ddyn gonest, yn amcanu bob amser at feddwl a gweithredu yn gyfiawn. Dyoddefech ferthyrdod yn hytrach nag aberthu y gwirionedd. Gallwch fod yn rhy dyner wrth eich teulu. Yr ydych yn gryf mewn cyfeillgarwch, ond nid ydych yn gwneyd cyfeillion o lawer. Yr argraff gyntaf a roddwch ar ddynion yw eich bod yn ddiserch, ond yr ydych yn gwella bob amser trwy ymgydnabyddiaeth a chwi. Yr ydych yn ddiffygiol mewn iaith, ond yr ydych yn meddwl yn wreiddiol - cesglwch eich ffeithiau, a threfnwch hwy yn eich ffordd eich hun, a thynwch eich casgliadau, ac mae eich ymlyniad wrth y credo a ffurfiwch fel hyn, yn deilwng o'r Mediaid a'r Persiaid yn eu hamser goreu!" Dyna i ti, ddarllenydd, ni gredwn, ddarluniad perffaith o ddynoliaeth naturiol Griffith Jones.
Ond dynoliaeth wedi ei sancteiddio a gras ydoedd ei eiddo ef. Yr oedd yn amlwg dduwiol, yn ddyn Duw, yn mhlith ei gydweithwyr; yr oedd cymaint o urddas duwiol o'i gwmpas fel y byddai annuwiolion yn gwyleiddio yn ei bresenoldeb. Yr oedd hyn, yn ol ei dystiolaeth ef ei hun, yn atebiad i'w weddi. Yn y seiat ddiweddaf y bu ynddi yn Middle Granville, dywedai, "Dau beth neillduol y gweddiwn am danynt wedi i mi ddod at grefydd, sef am i mi gael fy ngwneyd yn wir dduwiol, ac yn ddychryn i annuwioldeb." Ei hanes crefyddol sydd genym yn awr, a hwn oedd y pwysicaf yn ol ei deimlad ef ei hun. Ni chlywsom ei fod yn talu unrhyw sylw neillduol i ddydd pen ei flwyddyn fel dyn, ond gwyddom ei fod yn arfer dathlu dydd pen ei flwydd fel crefyddwr. Nid ai i'r chwarel y diwrnod hwnw, ond arosai gartref i ddarllen, myfyrio a gweddio - i fyfyrio ar y gorphenol, ac i adnewyddu ei addunedau i'r Arglwydd. Tuag ugain oed ydoedd pan ddaeth at grefydd, a gwnaeth ddirwest yn rhan o'i grefydd y pryd hwnw, ac felly, parhaodd yn ddirwestwr selog hyd y diwedd.
Gofynais iddo unwaith, "A yw yn edifar genych i chwi ddod i America, Griffith Jones?" "Nac ydi, nac ydi," meddai, "colled dymorol i mi ydoedd, ond enill ysbrydol." Bu y cwpanau chwerwon, a estynodd rhagluniaeth iddo, yn lles ysbrydol iddo, ac amgylchiadau crefyddol y cylch yr arweiniodd ef iddo, yn foddion i'w dynu allan fel gweithiwr cyhoeddus gyda chrefydd.
Meddyliwr a siaradwr dipyn yn annyben ydoedd; ond pan gynyrfid ef ystwythai ei dafod, a gallai gyraedd a thori gwrthwynebydd yn lled fedrus. Unwaith yr oedd ymwelwyr a'r eglwysi yn Middle Granvilìe, ac wedi holi y swyddogion am yr eglwys, rhoddasant gyfle iddi hithau ddweyd ychydig am y swyddogion; ac ymgymerodd brawd a bod yn enau iddi, a gwnaeth ychydig sylwadau ar bob un; ac meddai am Griffith Jones, "Mae ef yn dda pan geir ef ar ei draed, ond gwaith trafferthus yn aml yw ei godi; byddai yn welliant pe gellid cael derrick yma i'w godi ar ei draed." Gwnaeth yr hen dad ryw gilwg arno, ac meddai, "Cofia di ------ fod rhaid i long fawr gael amser i droi, ond mae rhyw fan gychod yn gallu picio yn hawdd o'r naill fan i'r llall." Os oedd ef yn symud yn araf, yn gorfforol a meddyliol, yr oedd yn symud yn gryf. Mae i Griffith Jones le mawr yn hanes cynydd Methodistiaeth a chrefydd yn nghylch Cyfarfod Dosbarth Dwyreinbarth New York a Vermont.
Bu yn gwasanaethu yn y swydd ddiaconaidd am 34 o flynyddoedd, yn eglwysi Middle Granville, Salem a West Pawlet. Yr oedd ef ar y blaen yn ffurfiad yr eglwys Bu, fel amryw eraill, yn gwasanaethu yn y swydd ddiaconaidd cyn ffurfiad y Cyfarfod Dosbarth, ac yr oedd yn mhlith y diaconiaid a dderbyniwyd yn aelodau o'r Cyfarfod Dosbarth ar ei ffurfiad yn Middle Granville, Rhagfyr 3ydd, 1866, o'r rhai nid oes yn aros ond dau, sef Mri. J. J. Jones, Castleton, a Pierce Roberts, Fair Haven. Dylynodd y Cyfarfodydd Dosbeirth yn ffyddlon hyd y diwedd, a gwyddai bob amser pa faterion amgylchiadol fyddai i ddod dan sylw; byddai wedi rhag-feddwl arnynt, ac yn barod i awgrymu cynlluniau. Dylynodd lawer ar y Cymanfaoedd hefyd. Yn y Gymanfa ddiweddaf yn Fair Haven, siaradodd yn effeithiol iawn - rhyw ymson oedd ei anerchiad. "Yr wyt wedi cerdded llawer i'r cyfarfodydd yma; yr wyt yn gweled dy hun yn ffol iawn erbyn hyn. Nac ydw, nac ydw. Wel, yr wyt ti wedi colli llawer o'th amser, a gwario llawer o arian - mae genyt gyfrif mawr yn ei erbyn bellach. Na, 'dydw i ddim yn meddwl rhoi bill byth iddo - 'does arno fo yr un sent i mi."
Yr oedd wedi gwneyd yr achos mawr yn achos iddo ei hun, a gwasanaethodd ef yn ffyddlon hyd y diwedd. Farnamsville, Poultney, a Salem oedd y maes cenadol cyntaf i dderbyn cynorthwy ein Cymdeithas Genadol, a'r Parch. Joseph Roberts, D. D., oedd y cenadwr. Yr oedd Griffìth Jones yn aelod ar hyd yr amser o'r pwyllgor fu yn gofalu am y maes hwn. Ar anogaeth y Cyfarfod Dosbarth cawn ef yn gadael Middle Granville, ac yn myned i Salem i blanu a meithrin achos crefyddol yn mhlith yr ychydig Gymry oedd yno. Ffurfiwyd eglwys ac adeiladwyd capel yno yn fuan. Yn 1877 symudodd i West Pawlet, pan yr oedd yr achos yn ei fabandod yno; ac efe oedd swyddog cyntaf yr eglwys, a pharhaodd yn swyddog yno hyd y diwedd. Dyfynwn a ganlyn am dano o lythyr y Parcn. Joseph Roberts, D. D.:
"Ni ddaethym erioed i adnabyddiaeth a gwell dyn na'r hen ddiacon hwn. Yr oedd yn ddiacon Methodistaidd o'i ben i'w draed, ac i'w galon. Pe buasem yn meddwl am y Duw mawr yn myned i lunio corff i ddiacon Methodistaidd, ac wrth ei lunio yn gofalu na byddai yn debyg i'r type diaeonaidd gydag enwadau eraill, nis gallaf feddwl am yr un gwell na Griffith Jones. Eto, yr oedd yn eangach a rhyddach ei syniadau na'r cyffredin o'i gydoeswyr. Yr oedd yn feddyliwr cryf a gwreiddiol, ond hynod o annyben yn mynegu ei feddwl. Yr oedd yn rhaid bod yn gyfaill ìddo, cyn y caniatai i neb fyned i'w sancteiddiolaf. Hen dderwen gref ydoedd; ac i'r dyeithr yn ymddangos ychydig yn arw a cheinciog, ond yr oedd yn meddu ar ruddin cryf ac iach.
Ni wnai ei feddwl i fyny yn fyrbwyll am bersonau a phethau, ond wedi iddo lunio barn nid hawdd oedd ei symud. Ni bu raid i'r Ysbryd Glan argyhoeddi Griffith Jones ond unwaith, yr oedd hyny yn ddigon am byth. Er mai dyn ieuanc oeddwn pan aethym i lafurio yn y cylch, ac yntau yn hen ddiacon parchus, cefais ynddo gyfaill pur, a chadarn fel y graig; a gweddiai lawer droswyf. Os caf lanio fy hun i fysg y rhai sydd wedi cyraedd adref, bydd yr hen frawd hwn yn un o'r rhai y byddaf yn holi am danynt."
Ni ddywedai ei fod yn sicr o fyned i'r nefoedd, ond dywedai yn fynych, "Os collir fi, bydd yn siomedigaeth ofnadwy i mi." Gallem gofnodi llawer o'i ddywediadau, ond ni chaniata gofod i ni yn awr. Yr oedd yn esiampl neillduol i ddiaconiaid yn y pethau canlynol:
1. Awyddai gydnabod y weinidogaeth, mewn ystyr arianol, yn anrhydeddus - ei gwestiwn ef oedd, nid beth oedd raid roddi, ond beth oedd y gydnabyddiaeth anrhydeddusaf a ellid roddi.
2. Gweddiai yn gyson, yn y dirgel, dros y gweinidog, a thros wrandawyr yr efengyl wrth eu henwau. Mae rhai yn y cylch yn parhau yn gyndyn eto, ag y bu Griflith Jones yn eu cyflwyno wrth eu henwau i sylw Duw yn y dirgel.
3. Siaradai lawer yn bersonol a rhai, yn enwedig ieuenctyd, yn nghylch eu dyledswydaau crefyddol; ac ymdrechai lawer i'w dwyn i weithio yn gyhoeddus gyda chrefydd. Gwn fod ei goffadwriaeth yn fendigedig gan lawer o honynt oblegid hyn.
4. Symudai yn rhwydd gyda phob gwelliant cyfundebol - nid oedd dim yn geidwadol ynddo fel rhai hen ddiaconiaid. Felly, nid oedd yn gadael maes y frwydr, fel ambell i hen sant, yn siomedig a chwerw ei ysbryd; ond edrychai yn mlaen yn obeithiol - teimlai fod y rhagolygon yn llawer gwell na phan y dechreuodd ef ar y gwaith, a chefnai ar yr eglwys filwriaethus yn ddiolchgar a llawen ei ysbryd. Yr oedd wedi ei foddhau gymaint yn y Gymanfa ddiweddaf a gafodd, fel yr oedd yn barod i ddweyd, meddai ef, "Yr awrhon y gollyngi dy was mewn tangnefedd."
Yr oedd ganddo ddau gartref yn ei aros, yn ol fel y dywedai ef ei hun, sef Middle Granville a'r nefoedd. Yn Middle Granville yr oedd ei faes Machpelah ef, ac yno y rhoddwyd ei gorff i orphwys, ond aeth ei ysbryd, fel y credwn, i blith "Ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd."
Yr hen dad anwyl! Mae ein calon yn awr yn drom gan hiraeth am dano. Prudd-bleser i ni yw adgofio ei wyneb, ei awgrymiadau, a'i ffyddlondeb i ni; ond credwn fod meddwl am dano yn mhlith y 'cwmwl tystion" yn symbyliad i ni redeg gweddill yr yrfa a osodwyd o'n blaen.
Edward Roberts. Venedocia, Ohio.