MR. J. E. JONES. 843, LOGAN STREET, CHICAGO.
Chwefror 25ain, 1895. yn 843, Logan Street, Chicago, J. E. Jones, yn 37 mlwydd, 11 mis a 25 diwrnod oed.Ganwyd ef Chwefror 28ain, 1857. Enwau ei rieni ydoedd John ac Ann Jones, Llwyngwril, Meirion, Gogledd Cymru.
Ymbriododd yn 1880 â Miss Mary Hughes, merch i Mr. a Mrs. Hughes, Dyffryn Ardudwy, ac yn y flwyddyn ganlynol ymfudasant i America, gan sefydlu yn Chicago, ac yma bu fyw hyd derfyn ei oes.
Bu yn aelod ffyddlawn am flynyddoedd yn Sardis; ond trwy eu bod wedi adeiladu tŷ iddynt eu hunain rhyw bum milltir oddiwrth y capel, nis gallasai roddi ei bresenoldeb ond anaml, ac o'r herwydd codasai ei lythyr ychydig o fisoedd yn flaenorol i'w farwolaeth gan ymaelodi mewn eglwys Henaduriaethol gyfagos.
Cafodd angladd barchus.
Yr oedd yn ddyn tawel, yn ŵr da, ac yn Gristion diameuol. Duw fyddo yn Farnwr i'w weddw, ac a ofalo am dani.
R. TROGWY EVANS.