MR. JOHN J. JONES. NEW YORK.

Mawrth 8fed, 1895. yn New York, yn 75 mlwydd oed, John J. Jones, mab John ac Ann Jones.

Ganwyd ef yn Waenfawr, Sir Gaernarfon. Gogledd Cymru. Yr oedd yn un o chwech o blant, ac efe oedd yr olaf a fu farw o'r teulu. Yr oeddwn yn adnabod brawd iddo pan yn fachgen, yr hwn a elwid Robert Jones, y ffatrwr, o ffactri uchaf Penmachno.

Ymbriododd Mr. Jones y tro cyntaf yn 1675 â merch David Davies, Garthmyn Capel Carmon. yn agos i Llanrwst, Gogledd Cymru, a bu iddynt saith o blant, pump o feibion a dwy o ferched. Bu y bechgyn oll farw yn ieuainc, fel nad oes yn aros o'r plant ond dwy ferch. Bu Mr. Jones fyw am flynyddoedd yn Bettwsycoed; ar ôl hyn symudodd i fyw i Ffestiniog. O Ffestiniog symudodd i'r wlad hon yn 1870.

Ymbriododd yr ail waith â Miss Jara R. Roberts o Llaneurgain, yn agos i'r Wyddgrug, Sir Fflint, yn 1864, yr hon a adawyd i alaru ar ei ôl.

Ar ol dyfod i'r wlad hon ymsefydlodd yn Kansas, lle y bu am yn agos i flwyddyn. Cafodd afiechyd trwm yno, a phenderfynodd, symud oddi yno i New York, lle bu yn byw am bedair blynead ar hugain.

Dywedir iddo gychwyn ar fywyd lled rydd pan yr oedd yn ieuanc, ond pan yr oedd ei ferch hynaf tua blwydd oed, sef 1846, cymerodd cvfnewidiad le yn ei fywyd mewn canlyniad i afiechyd a ddyoddefodd yr hwn a'i dygodd yn agos i angeu. Penderfynodd yn yr afiechyd hwn os cai fyw, y byddai iddo fyw bywyd gwell. Cadwodd ei benderfyniad ac ymunodd â chrefydd. Ni bu bwlch yn ei broffes o'r pryd hwnw hyd ddydd ei farwolaeth, cyfnod o 47 mlynedd. Yr oedd yn Gristion ffyddlawn, yn ŵr deallus yn yr Ysgrythyrau, yn meddu syniadau o'r eiddo ei hun, ac wedi talu rhyw gymaint o sylw i Ramadeg yr iaith Gymraeg.

Gŵr da oedd, a gair da iddo gan ei gydnabod a chan y gwirionedd ei hun. Gorphenodd ei daith mewn gwirionedd a'i lygaid yn gweled dyddanwch yr Israel.

Claddwyd ef o eglwys 13th Street, New York, pan y daeth cynulliad da o'r Cymry i'w gladdedigaeth. Gwnaed ychydig sylwadau ar yr amgylchiad gan yr ysgrifenydd.
JOSEPH ROBERTS.

Y Drych ~ Mawrth 21ain 1895.