MRS. MARGARET D. JONES. 819 13th STREET, DENVER, COLORADO.

Rhagfyr 28ain, 1895, ar 819 13th Street, Denver, Colorado, Mrs. Margaret D. Jones, yn fwy adnabyddus i Gymry y Dalaeth fel "Mrs. Jones y Clifton."

Cafodd gystndd trwm, ond byr, a bu farw yn dawel, gan adael mab a merch sef E. D. a Mrs. A. J. Aste, i alaru eu colled.

Ganwyd yr ymadawedig yn Ty'n yr Ynys, plwyf Maentwrog, Gogledd Cymru, dros 80 mlynedd yn ôl. Gadawodd Ffestiniog gyda'i phriod tua 40 mlynedd yn ôl, gan dreulio peth amser yn nghymydogaeth Utica, New York; a gadawyd hithau yn weddw yn Cambria, Wisconsin., yn 1860.

Gyda'r penderfyniad a nodwedda ei theulu, ymladdodd frwydr bywyd gyda'i dau blentyn amddifaid, a dygodd hwy i fyny yn ddinasyddion anrhydeddus a defnyddiol o'u mabwysiedig wlad.

Chwaer ydoedd yr ymadawedig i'r adnabyddus Nicholas Jones, Minneapolis, gynt o Cambria, Wisconsin, a chyfnither i fechgyn Ty Clul, diweddarach o Ddol Rhiw - teulu lluosog ac adnabyddus iawn yn mhlwyf Ffestiniog.

Cafodd yr hen chwaer angladd anrhydeddus iawn, a rhoddwyd ei gweddillion i orwedd yn mynwent brydferth Fairmount, a'r Rockies "oll yn eu gynau gwynion" o amgylch ei hargel wely.

Heddwch i lwch un arall o hen "bobol y 'Stiniog" i lechu yn nghilfachau y Mynyddoedd Creigiog.
E. C. ROBERTS.

Y Drych ~ Ionawr 16eg 1896.