MRS. MARY JONES. PROSPECT STREET, CAMBRIDGE, MASSACHUSETTS.
Chwefror 13eg, 1895, Mrs. Mary Jones, yn nhŷ ei merch, Mrs. G. J. Williams, Prospect, Street, Cambridge, Massachusetts.Ganwyd yr ymadawedig yn y Castell, ger Bethesda, Gogledd Cymru, Awst 14eg, 1817. Ei rhieni oeddent Dafydd a Margaret Morris. Yr oedd yn un o ddeg o blant, o'r rhai nid oes ond un yn fyw, sef Mrs. Solomon, Brownville, Maine.
Priododd John Jones, "Tai-yn-coed," yn 1844, ac efe fu farw yn 1861, gan adael Mrs. Jones a phedwar o blant i alaru ar ei ôl. Yr oedd ef yn ddyn hynod dawel, caredig a duwiol.
Ymfudodd Mrs. Jones gyda'r ddau fab a'i dwy ferch i'r wlad hon yn 1865, a gwnaethant eu cartref yn Jamesville, yn agos i Poultney, Vermont. Bu y mab hynaf, John J. Jones, farw mewn canlyniad i gwympo oddiar do adeilad yn North Attleboro. Massachusetts, yn 1872. Bu y ferch hynaf (Maggie,) sef Mrs. W. P. Williams, farw yn Poultney, Vermont, yn 1890. Y mae y mab arall, David J Jones, yn byw yn Utica, New York, (lle y bu hithau yn byw am flynyddau,) a'r ferch (Eliza,) sef Mrs. G. J. Williams, yn byw yn Cambridge, Massachusetts.
Yr oedd Mrs. Jones yn dwyn "mawr sel" mewn ystyr grefyddol, yn hynod am ei gwybodaeth ysgrythyrol, ac wedi trysori rhanau helaeth o'r hen oraclau dwyfol yn ei chof. Yr oedd yn dra Chalfinaidd o ran ei golygiadau, ac wedi bod yn aelod ffyddlawn gyda'r Trefnyddion ar hyd ei hoes. Nid oedd dim yn y bywyd presenol a roddai fwy o bleser iddi na chlywed "pregethiad y gair," ac yn enwedig yn yr uchel wyliau. Yr oedd ganddi y meddwl mai cymanfa dragywyddol ydyw y nefoedd. Bu yn wael iawn ei hiechyd am tua chwe' blynedd, ac am faith amser yn analluog i ddarllen, a syrthiodd i ran yr ysgrifenydd i ddarllen pregethau, a.y. iddi.
Yr oedd Lampau'r Deml," "Y Pregethwr," a phregethau y diweddar Barch. Edward Morgan, Dyffryn, a.y., yn foddion llawer o gysur iddi hyd o fewn ychydig fisoedd cyn ei marwolaeth, pryd yr oedd yn rhy wanllyd i allu gwrando. Yr oedd er's amser maith yn gwahodd angeu, yn dymuno cael marw, ond ni ddaeth yr alwad hyd nes yr oedd wedi dyoddef bron bob peth oedd bosibl; yna daeth y diwedd.
Claddwyd hi yn mynwent Middle Granville, New York. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. Edward Roberts. Yr oedd tyrfa o'i hen gyfeillion yn bresenol, a llawer o berthynasau.
G. J. WILLIAMS.