RICHARD JONES. MINNEAPOLIS, HENNEPIN COUNTY, MINNESOTA.

Mab Richard Nicholas Jones (1831-1918) a Ellen L. Jones (1829-1909).

Find a Grave and Ancestry.


RICHARD N. JONES. MINNEAPOLIS, HENNEPIN COUNTY, MINNESOTA.

Ganwyd y gwr ieuanc a gobeithiol hwn yn Porthmadog, Gogledd Cymru.

Mab ydoedd i Mr. a Mrs. R. N. Jones. o'r ddinas hon. Ymfudodd gyda ei deulu i Montreal, Canada, ac oddiyno yma, yn y flwyddyn 1884. Machinist ydoedd o ran ei gelfyddyd, yn gweithio i Gwmni y Chicago, Milwaukee a St. Paul R. R.

Daeth adref Gorphenaf 3ydd, o Great Falls, Montana, lle y bu am dymor byr dros y cwmni. Yn fuan wedi iddo ddychwelyd, ymosododd yr hen elyn arno, sef clefyd y galon, yr hwn oedd wedi ei flino erpan yn fachgen deg oed.

Ar noswaith hafaidd, ddystaw, Awst lleg, ymollyngodd yn dawel i freichiau ei Waredwr, gyda'r hwn y bydd yn ei gymdeithas am dragwyddoldeb. Cafodd gystudd hir a thrwm, a dyoddefodd yn dawel ac amyneddgar. Gweinyddwyd arno yn dirion a gofalus. Rhoddodd brofion digonol ei fod yn marw fel y bu fyw — mewn ffydd. Nid proffes yn unig oedd crefydd Richard.

Bu ei iechyd yn wanaidd am flynyddoedd, a dyoddefodd lawer o boenau a nychdod; ond trwy ofal amdano ei hun, gwnaeth waith mawr. Ar brydiau, yn adeg ei gystudd diweddaf, yr oedd yn dra hynod - ei enaid yn cael ei lenwi o orfoledd yr efengyl. Adroddai lawer o adnodau a hen emynau wrth ei fam ac eraill, er gwaethaf y poenau. Dywed- ai gyda syndod, "Pa beth yw dyn i ti feddwl am dano?" Cyfeiriai yn aml at y geiriau hyny, "Ni thramwyasoch y ffordd hon o'r bìaen," gan gyfeirio ei fod i "rodio llwybr ar hyd yr hwn ni ddychwela." Ei hoff emynaù oeddynt:

" O na allwn garu'r Iesu," a.y.
"Ofryniau Caersalem ceir gweled," a.y.
"Gwaed y groes sy'n codi fyny," a.y.

Ei hoff lyfr oedd y Beibl: darllenai lawer arno, a myfyriai lawer ynddo. Y mae ol ei fysedd arno heddyw, lle y treuliodd aml i awr mewn myfyrdod uwch ei ben. Derbyniwyd ef a Griffith a Katie fach yn gyflawn aelodau yr un amser gan yr hen weinidog parchus John Moses, yn fuan ar ol iddynt ymsefydlu yma. Cafodd gyngorion lawer ganddo, a meddyliai yn uchel am dano: ond erbyn heddyw y mae llwch y tri wedi ymgymysgu â llwch y ddaear, yn nghyd a llwch yr hen batriarch, a'u hysbrydoedd yn canu yn iach yr ochr draw.

Yr oedd Richard "yn ffyddlon yn ei holl dy megys gwas" - un o rai llariaidd y ddaear ydoedd. Dilynai foddion gras gyda chysondeb. Yr oedd yn nodedig o ffyddlawn gyda y Gymdeithas Ymdrechol. Y mae y gymdeitbas yn ei cholled o golli gweithiwr da a difrifol. Dywedai y buasai yn caru cael byw, os oedd hyny yn unol ag ewyllys Duw, i ad-dalu i'w rieni oedranus am y llafur cariad a gymerasant gydag ef, trwy ei hyfforddi yn llwybrau rhinweddol bywyd: ond nid felly y trefnwyd.

Claddwyd ef Awst 12fed, wrth ochr Griffitb a Katie fach, yn mynwent brydferth Lakewood, pryd y dangosodd ei gydnabyddion o bob cenedl barch mawr iddo. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Parch. D. E. Evans (P). Bydded i'w rieni oedranus, brodyr a chwiorydd, godi eu golwg tua'r nef, gan obeithio y cant gyfarfod eto.
J. O. W.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1896.