MR. ROBERT H. JONES. PORTAGE, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Farmer, Sec. 16; P. 0. Portage; was born December 27th, 1830, in Merionethshire, North Wales; son of Hugh Jones; came to America in 1851 ; lived in Rock Co., near Janesville, two years; then in the village of Union, same county, about two years, and in December, 1855, came to Caledonia, where he has since resided.

Was married, August 26th, 1860, to Catharine, daughter of Robert Ellis, who came from Wales to New York, and from there to Columbia Co., Wisconsin, where he remained till his death; she was born in July, 1842, near Utica, N. Y.

Mr. Jones has nine children — Hugh, David, Mary Jane, John, Robert, Winnie, Maria, Catharine and Ruth; all at home.

He is a Republican, and has 378 acres of land in his farm.

Both are members of the M. E. Church of Portage.

Wisconsin County History and Findagrave.


MR. ROBERT H. JONES. PORTAGE, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.

Medi 27ain, 1895, yn 64 mlwydd a 9 mis oed, Robert H. Jones, Portage, Wisconsin. Ganwyd Mr. Jones yn Bettws-y-coed, Sir Feirionydd, Cymru, Rhagfyr 27ain, 1830. yn fab i Hugh a Gwen Jones. Daeth i America yn 1851, gan ymsefydlu ger Janesville, Wisconsin. Ar ôl dwy flynedd yno, daeth i Union, Rock County, Wisconsin, lle yr arosodd am ddwy flynedd arall. Daeth i sefydliad Baraboo, plwyf Caledonia, ger dinas Portage, yn 1855.

Priododd gyda Miss Catherine Ellis, o'r un ardal, Awst 26ain, 1860, a sefydlasant fel amaethwyr. Ganwyd iddynt bump o feibion a phump o ferched - Hugh, David, Mary, John, Robert, Gwen, Mariah, Catherine, Ruth. a Bennett Jones. Bu Catherine farw Gorph., 1894 Yr oedd wedi colli eu mam er Tachwedd 15fed, 1887.

Ni bu yntau yn gryf ar ôl colli ei briod, ac yn enwedig ar ôl colli ei ferch. Yr oedd yn ddyn diwyd a medrus, ac wedi dod i amgylchiadau da. Wedi i'r mab John briodi, rhoes i fyny ei hen gartref iddo ef, ac aeth i fyw i'r ddinas. Ond nis gallai oddef segurdod, ac felly ail ymaflodd yn y byd. Yr oedd ar ganol adeiladu tŷ newydd pan y galwyd ef ymaith.

O ran ei gyneddfau, meddai feddwl lled gryf, a hynod o eglur. Os nad allai ddeall peth yn drwyadl, ni wnai ddim oll ag ef. Hefyd, arferodd ei hun i fod yn sefydlog a phenderfynol iawn. Fel hyn, gan ei fod yn ddyn da ei egwyddorion, daeth yn un ymddiriedol anghyffredin. Tystiai un a fu yn trafod llawer gydag ef ei fod yn un o'r dynion mwyaf geirwir a gonest a ellid gael. Yr oedd ei brif ddiffyg yn gorwedd, fel ag y dygwydd yn fynych, yn ymyl ei rinwedd penaf - os cai ei dramgwyddo a'i siomi mewn dyn, byddai yn rhy annyben i wneyd i fyny a heddychu. Yr oedd yn hynod o garedig fel crefyddwr yr oedd yn dra phrydlon, cydwybodol a dwys.

Cadwai addoliad yn ei deulu gyda dyfalwch, ac y mae ffrwyth da i'w ffyddlondeb fel "proffwyd, offeiriad, a brenin" yn ei gartref. Mae ei fab newydd gael ei neillduo yn ddiacon gyda r T. C. yn Caledonia. Bu farw gan bwyso yn dawel ar ei Brynwr cadarn; a barnai ei hen weinidog nad oedd yn twyllo ei hunan.

Claddwyd ef y dydd Llun canlynol yn ngwydd torf fawr. Llywyddid gan Mr. G. J. Williams, a charid ei arch gan Mri. Hugh Roberts, H. R. Williams, H. O. Lewis, W. T. Phillips, Robert Pugh, a W. D. Williams. Gweinyddwyd gan y Parchn. T. J. Rice, A. Longfield, Edward Roberts, H. Owens, Barneveld, a David Davies, Oshkosh. Canwyd rhai o'i hoff emynau (847, 851, 858. 861, 881) gyda dylanwad hyfryd. "Felly y rhydd efe hun i'w anwylyd."

Wisconsin County History and Findagrave.