MR. SAMUEL JONES. SOUTH OMAHA, NEBRASKA.
Rhagfyr 2ail, 1895, yn South Omaha, Nebraska, yr hynafgwr parchus, twym galon, Samuel Jones, yn 86 mlwydd oed.Ganwyd ef yn ardal Gwyddelwern, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, yn 1809, a bu yn byw yn y cymydogaethau hyn.
Priododd unig ferch y diweddar Peter Ellis, Gwernhenedd, Llanelidan, lle y treuliodd y 27 treuliodd y 27 mlynedd o'i oes ac y claddodd bump o blant.
Ymfudodd i America yn 1870, gyda'i briod a chwech o blant, oll yn fyw; a chafodd pump o honynt y fraint o weinyddu iddo yn ei gystudd diweddaf. Ymsefydlodd yn ardal Dawn; wedi hyny yn Plymouth, Missouri. Bu am tua chwe blynedd yn Keyahaha, Nebraska, a'r gweddill gyda'i feibion, Samuel a Robert, yn South Omaha, lle cafodd y go fal tyneraf gany teulu, meddygon a chymydogion.
Cafodd angladd tywysogaidd. Ei fab hynaf, J. O Jones, a ysgrifena : "Cafodd fy nhad ei fagu yn eglwys Dduw gyda'r T. C., a glynodd yn ffyddlon yn ei broffes hyd y diwedd. Er ei fod dan anfanteision yn mhlith Americanaidd, eto yr oedd ei broflad crefyddol yn felys, a mynych adroddai adnodau o'r Beibl, megys Tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd, a.y. Yr oedd yn ŵr serchog, tad tyner a gofalus am ei deulu, ac yn un a hoffai yn fawr gan bawb a'i hadwaenai."
Yn yr angladd darllenwyd a gweddiwyd yn y tŷ yn Gymraeg gan W. M. Williams, Omaha; pregethwyd yn eglwys M. E. yn Saesneg gan y Parch. W. W. Jones. Bellevue, Nebraska, a gwnaed sylwadau tarawiadol gan y Parch. Mr. Winpip, D. D., o South Omaha. Terfynodd yr henafgwr hwn ei fywyd gan adael tystiolieth eglur o'i gymwysder i fyned i mewn i'r trigfanau tawel yr ochr draw.
Tad yr amddifad a Barnwr y weddw a fyddo yn dyner o'i briod oedranus a'r gweddill o blant.