MR. THOMAS G. JONES. 18 DEVEREUX STREET, UTICA, NEW YORK.
Tachwedd, 5ed, 1895, yn nhy Robert Williams, 18 Devereux Street, Utica, New York, Thomas G. Jones, yn 83 mlwydd oed.Ganwyd ef yn Towyn, Meirionydd, o'r lle y daeth i America tua 40 mlynedd yn ôl, gan ymsefydlu yn Nelson, Madison County.
Ar ôl claddu ei wraig tua 14 mlynedd yn ôl, bu yn byw yn Clinton am bedair blynedd; yna symudodd i fyw gyda'i ferch, Mrs. Henry H. Carr, yn Utica.
Tua dwy flynedd yn ôl priododd Mrs. Jane Rodgers, yr hon fu farw yn sydyn Mawrth 1af, 1894.
Cynaliwyd gwasanaeth angladdol iddo yn y tŷ ar Devereux St., bore dydd lau, y Parch. Dr. Gwesyn Jones yn gweinyddu; yna cymerwyd ef i'w gladdu yn Nelson, lle gweinyddwyd gan y Parch. Richard Hughes.