WILLIAM J. JONES, CALIFORNIA, RANDOLPH, WISCONSIN.

Hydref 13eg,1895, bu farw Mr. Wllliam J. Jones, Randolph, Wisconsin.

Ganwyd Mr. Jones, Mawrth 31ain, 1847, yn y fan lle saif Elwy House, Trefriw, G. C. Gelwid y lle y pryd hwnw Ware House. Enwau ei rieni oeddynt John Jones ac Ann Jones. Adwaenid ei dad pan yn ieuanc wrth yr enw John Jones, Rancar, lle y gwasanaethai. Ei fam ydoedd ferch i Robert Owen, Store House, Trefriw, goruchwyliwr a prospector adnabyddus i Ystad Gwydir yn Nyffryn Conwy. Yr oedd ei fam yn nith i'r efengylydd Cadwaladr Owen, Dolyddelen. Disgynai o linach enwog am eu crefyddoldeb; a chafodd William ei fagu ar aelwyd grefyddol iawn, a dygwyd ef i fyny yn yr eglwys o'i febyd, ac hyd y gwyddom na roes un brofedigaeth i'r eglwys erioed, a pharhaodd ar hyd ei oes yn aelod eglwysig, a mynychai yr ysgol Sabbothol gyda chysondeb.

Bu farw ei dad pan oedd ef yn brin saith mlwydd oed, gan adael ei fam yn weddw gyda phedwar a blant bach i ofalu am danynt. Pan yn wyth oed, cawn ef yn ngwaith plwm Tyntwll yn pigo plwm, Wedi hyny bu yn gwelthio am dymor yn Crower, Llanfrothen; Welsh Slate Ffestiniog, a'r Graigddu, gan wneyd ei gartref gyda'i fodryb, Mary Jones, Ty Newydd, Penmachno.

Yn ngwanwyn 1869, ymfudodd i'r wlad hon, a bu am dymor yn gweithio yn Bangor, Pennsylvania. Symudodd oddiyno i Slateford, Pennsylvania, gan wneyd ei gartref gyda'i gefnder John O. Owens. Oddiyno symudodd i Plymouth a Wilkesbarre, Pennsylvania. Pan yn y lle olaf, daeth ei chwaer a'i theulu ato i aros; ond ni bu ond tri mls fyw wedi dod; bu farw Awst, 1871. Yn niwedd 1871 dychwelodd i Gymru gyda bachgen bychan ei chwaer; ac yn ngwanwyn 1872 dychwelodd i Wilkesbarre, Pennsylvania. Yu 1873 talodd ymweliad a'i berthynasau yn Cambria, Wisconsin. Yn 1878 dychwelodd drachefn i Wisconsln, pryd y priododd Miss Jane D. Roberts, merch J. G Roberts, California, a bu yr undeb yn un hapus.

Nid oedd yn gryf ei iechyd ers blynyddau, ac yn Rhagfyr, 1893, cafodd ymosodiad o'r anwydwst, yr hwn a droes yn ddarfodedigaeth arno, o'r hwn glefyd yr hunodd yn dawel a'i bwys ar ei Geidwad, Hydref 13eg,1895, a chladdwyd ef ar y 15fed, pryd yr oedd tyrfa luosog yn dymuno talu parch i'w goffadwriaeth, ac yn mynu cydymdeimlo a'r weddw sydd wedi ei gadael gyda phedwar o blant amddifaid.

Gweinyddwyd gan y Parchn. D. R. Jones, R. P. Jones, E Morgan a'r ysgrifenydd. Claddwyd ef yn mynwent Engedi.

Bu Wm. J. Jones yn aelod o'm heglwys am 22 o flynyddau, a gallaf dystio ei fod yn ddyn da - yn ddyn y mae arnaf hiraeth ar ol ei golli. Meddai farn aeddfed a phwyllog. Yr oedd yn ddarllenwr lled fawr, ac yn wrandawr astud, ac yn medru mwynhau yr efengyl. Yn yr ysgol Sul byddai yn gyson yn ei ddosbarth os yn iach. Byddai y cwestiynau a ofynai yn y ddosbarth yn werth eu hateb, am y byddent yn agoriadau o'r testyn. Darllenodd lawer yn ei faith gystudd. Wrth ymddyddan ag ef am ei brofiad crefyddol yn ei gystudd, dywedai "Ei fod wedi gwrando pregeth mewn cwrdd pregethu yn Nghymru, a byth wedi y bregeth hono, iddo deimlo mai nid gair dyn ydyw yr efengyl; ond iddo wrando byth wedyn fel y mae yn wir Air Duw." Nid wyf yn medru adgofio enw y pregethwr a fu'n foddion i selio y gwirionedd i'w enaid, ond yr wyf yn bur dawel fy meddwl fod marw yn elw iddo. Yr oedd bob amser yn derbyn y Cyfaill, ac yn ei ddarllen yn fanwl. Y mae y bobl sydd yn derbyn y Cyfaill yn ei ddarllen fel rheol. Dim awydd darllen llenyddiaeth o nodwedd grefyddol ydyw y prif reswm na bae mwy o'r haner yn ei dderbyn. Gofaled y Nefoedd am ei briod sydd mewn dwfn drallod a'r blant ywgwir ewyllys fy nghalon a'm gweddi.
J. R. DANIEL.

Y CYFAILL O'R HEN WLAD ~ Rhagfyr 1895.