MRS. CATHERINE LLEWELLYN. PAULINE, ADAMS COUNTY, NEBRASKA.
Mai 2ail, 1895 yn ei chartref, ger Pauline, Adams County, Nebraska, Mrs. Catherine Llewellyn, ar enedigaeth baban.Merch ydoedd i Thomas ac Ellen Jones (Thomas Jones Llangollen), Talysarn. Sir Gaernarfon. Ganwyd hi Medi 17,1860.
Symudodd gyda ei rhieni i'r wlad hon yn Mehefln, 1883. Yn Mehefin, 1884, ymunodd mewn glan briodas a Mr. L. B. Llewellyn, Glenville, Clay County, Nebraska, a bu iddynt chwech o blant, o'r rhai y mae pump yn fyw.
Yr oedd yn aelod ffyddlawn gyda'r M. E. yn Pauline. Cafodd gladdedigaeth barchus a lluosog, y Parch. E. Holland (M. E.) yn gweinyddu.
Bu farw ei thad yn Medi, 1884. Mae ei thri brawd yn amaethwyr cyfrifol yn yr ardal hon, a'r hen wraig ei mam yn hoenus a siriol er yn tynu am 77 mlwydd oed.
G. EVANS.