MRS. CATHERINE MORRIS, BRISTOL GROVE, MINNESOTA.
Mehefin 28ain, 1895, Mrs. Catherine Morris, priod y Parch. O. R. Morris, Bristol Grove, Minnesota.Cafodd angladd lluosog ac anrhydeddus y dydd Sadwrn canlynol, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. W. Ryle Davies, Edward Joseph a W. Machno Jones.
Dyoddefodd gystudd a nychdod poenus am amryw fisoedd, a dyoddefodd lawer o waeledd iechyd yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, a'r syndod yw iddi gyraedd yr oedran teg o 80 mlwydd o fewn ychydig fisoedd.
Yr oedd yn enedigol o ardal y Ceunant, Llanrug, Sir Gaernarfon. Mae iddi lawer o berthynasau parchus a chrefyddol yn Llanrug a Llanberis. Enwau ei rhieni oedd Thomas ac Elizabeth Jones, Hafodlas. Yr oedd yn gyfnither i Robert Parry, Llywydd Undeb y Chwarelwyr, ac yn fodryb i'r Parch William J. Jones, Llanbedrog. Ganwyd iddi bump o feibion, a'i mab ieuengaf hi yw Prof. John Morris, West Pullman, Illinois.
Yr oedd yn ddiarebol am ei chynildeb a'i diwydrwydd, ac yn goron ar y cwbl yr oedd yn weithgar a selog gyda chrefydd, a chafodd farw mewn mwynhad o dangnefedd yr efengyl. Cadwodd ei hymwybyddiaeth i'r mynyd olaf. Ceir mwy o fanylion eto yn y Cyfaill.
Y Drych ~ Gorphenaf 11eg 1895.
MRS. CATHERINE MORRIS, BRISTOL GROVE, MINNESOTA.
Yr oedd Mrs. Morris yn ferch i Thomas ac Elizabeth Jones, Hafodlas, yn ardal y Ceunant, Llanrug, ger Caernarfon, Gogledd Cymru. Ganwyd hi yn y lle uchod, Chwefror 27ain, 1816, a bu farw Mehefin 28ain, 1895, ac felly yr oedd yn 79 mlwydd a 4 mis oed. Daeth i America yn 1845.Priododd y waith gyntaf yn Dodgeville, Wisconsin, gydag un o'r enw Isaac Williams, yn l847. Yn ngauaf 1849, aethant ill dau yn ôl i Abertawe, De Cymru, a dychwelasant yn ngwanwyn y flwyddyn hono, trwy New Orleans; ac wrth ddod i fyny y Mississippi, cyfarfu y gŵr â damwain trwy syrthio, a bu farw yn mhen tri diwrnod wedi iddynt gyraedd i'w cartref yn Dodgeville, gan ei gadael hi a'i baban bychan i ymladd brwydr bywyd eu hunain.
Yn Hydref, 1851, priododd drachefn gyda'r Parch. O. R. Morris, a bu yn ymgeledd gymwys iddo ef a'r holl deulu nes y torwyd yr undeb priodasol ag oedd wedi dal trwy bob tywydd o fewn ychydig i 44 o flynyddoedd. Cafodd angladd lluosog iawn, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. E. Joseph, J.Broadwater, W. Machno Jones, Lake Crystal, a W. Ryle Davies o Gymru.
Ganwyd iddi bump o feibion; un o'r briodas gyntaf, sef Isaac, yr hwn sydd wedi cartrefu bob amser gyda'i fam; a phedwar mab o'r ail briodas, sef William, Thomas, Evan a John - y diweddaf yw Prof. John Morris, West Pullman; tri arall yn aros gartref ar y fferm, ac Evan wedi marw saith neu wyth mlynedd yn ôl.