MRS. ELIZABETH MORRIS, FARMERSVILLE, VERMONT.
Rhagfyr 8fed, 1882, ar enedigaeth baban, bu farw Elizabeth, anwyl briod Thomas Morris, Farmersville, Vermont, yn 41 mlwydd oed.Yr oedd hi yn ferch i William ac Elizabeth Jones, Garn, Sir Gaernarfon. Bu yn briod 16 mlynedd, a gadawodd bedair o ferched mewn oedran tyner i alaru eu colled ar ôl mam ofalus iawn. Yr oedd hi yn wraig dawel ac addfwyn ei hysbryd, gofalus a diwyd yn nghylch amgylchiadau ei theulu, diabsen am ei chymydogion, a dirwgnach mewn profedigaethau. Gwelodd gladdu amryw o blant, yn gystal a thrafferth o herwydd cystuddiau yn y teulu; ond yn ngwyneb y cwbl ymostyngai gyda mesur o dduwiolfrydedd ysbryd i ewyllys Duw yn y cwbl a'i cyfarfu.
Tua deuddeg mlynedd yn ôl y dechreuwyd yr achos crefyddol yn yr ardal hon, a bu hi, yn gystal a'i phriod, yn ffyddlon ac yn wasanaethgar i'r achos yn ei fabandod. Mae yr Ysbryd Glan wedi arfer manylder i gadw enwau llawer a fu yn garedig i achos Iesu Grist rhag myned i ebargofiant. Y gwragedd hyny a ganlynasant yr Iesu o Galilea; Mair, yr hon a eneiniodd ei gorph. "Mair, yr hon a gymerodd iawer o boen erom ni," meddai Paul. A phe buasai y Testament Newydd yn cael ei ysgrifenu yn yr oes hon, yr ydym yn credu y buasai enwau llawer yn gyffelyb ynddo. Ac mae yn ddyledus i'r chwaer hon fod ei henw ar gof a chadw ar gyfrif ei charedigrwydd i'r achos, ac am ddarfod iddi "wasanaethu Duw yn ei chenedlaeth" felly. "Ysgrifenwyd llyfr coffadwriaeth i'r rhai sydd yn meddwl am ei enw ef."
Daearwyd yr hyn oedd farwol o honi yn ymyl ei phlant, yn mynwent Fair Haven, a chyflwynwyd y gwasanaeth crefyddol gan y Pareh. Thomas. R. Jones, Wisconsin.