MRS. MARGARET MORRIS. ARVONIA, VIRGINIA.
Ionawr 13eg, 1895, Mrs. Margaret Morris, gweddw William T. Morris, Arvonia, Virginia, o'r cancer yn yr ystumog. Cafodd gystudd trwm am ddau fis, yr hwn ddyoddefodd yn dawel a dirwgnach, mewn llawn hyder am wellhad hyd o fewn ychydig ddvddiau i'w diwedd, pryd yr ymdawelodd i ewyllys ei Duw.Yr oedd tua 73 mlwydd oed, ac yn ferch i Rowland a Margaret Lewis, Bryncrug, Meirionydd. Collodd ei phrird trwy ddamwain mewn chwarel: ar yr un pryd collodd ei mab ei olwg, a chafodd D. D. Williams ei anafu yn drwm. Oddiar hyny bu yn cadw "boarding" am rai blynyddau yn Virginia: wedyn bu yn aros yn Philadelphia.
Tua phum mlynedd yn ôl daeth yma drachefn, ac ymgymerodd a chadw tŷ i J. R. Williams, lle y cymerwyd hi yn wael. Bu Margaret ei merch yn gweini iddi am fis cyn y gallai ei chael yn ddigon cref i'w symud o'r dref (Richmond) i'w chartref ei hun yn Buckingham County, lle y cafodd bob tynerwch, a'r gofal llwyraf a allasai ei dwy ferch ei estyn iddi.
Gadawodd chwech o blant i alaru ar ei hol, sef Tom, yn Charlottesville, Virginia; Margaret a Mary, yma; Jane yn Granville, New York; Lizzie yn Albany; a Sallie yn Philadelphia; ac mae iddi frawd a dwy chwaer yn Nghymru, sef John Lewis, Porthmadog; chwaer yn Aberdyfi, ac un yn Towyn, Meirionydd.
Yr oedd Mrs. Morris yn un o'r cymeriadau puraf a gyfarfuom erioed, a'i charedigrwydd a'i hewyllysgarwch, a'i gofal diflino am gysur ei thylwyth, yn dwyn pawb a ddeuai i gyffyrddiad â hi i'w hoffi fwyfwy.
Cafodd un o'r angladdau parchusaf a welsom yma erioed. Cafwyd gwasanaeth Cymreig yn y tŷ, ac yn Saesneg gan Willson Pres yn y capel, sef Arvon Church, lle y dodwyd ei gweddillion i orphwys yn agos i'w hwyres fach Katie.