MR. DAVID OWEN MORRIS. (DEWI GLAN DULAS). WEST PAWLET, RUTLAND CO. VERMONT.
"ADWYON SYDD AM DEWI."
Crybwyllwyd yn y rhifyn diweddaf am farwolaeth "Dewi Glan Dulas" yn yr Unol Daleithiau. Trigianodd am amser yn Arthog a Corris, lle y dangosodd yn dra ieuanc duedd farddonol gref. Cymerodd ei enw barddonol oddiwrth afon Corris Bydd yn ddyddorol gan lawer yn ddiau gael yr hanes canlynol am dano, yr hwn yr ydym yn ei ddyfynu o'r Drych.Marwolaeth a Chladdedigaeth Barchus DAVID O. MORRIS (Dewi Glan Dulas).
Yn Glan Dulas mae barddas a beirddion
Heddyw'n alarus am ddoniol wron;
Gwr llon ei arwedd garai llenorion,
A bardd rheolaidd gwylaidd o galon;
Hwn nyddai gynganeddion-yn nwyfus,
A'i hwyl ddifyrus, yn fawl ddyferion.
Gwyndaf.
Anadlodd y tra awenyddol fardd Dewi Glan Dulas ei anadl olaf am haner awr wedi deuddeg o'r gloch, nos lau, Medi 5ed, yn mhreswylfod Robert W. Jones a'i briod garedig, West Pawlet, Vermont. (Mr. Jones yn frawd i'r diweddar John W. Jones, Y Drych, gynt), yn 42ain mlwydd oed. Ei afiechyd oedd tumor of the brain, dan yr hwn y treuliodd fisoedd yn ddioddefgar a thawel. Caethiwyd ef i'w wely am tua chwech wythnos cyn ei farwolaeth, a chafodd bob gofal a thriniaeth.
Genedigol oedd o Beddgelert, Arfon, mab i Owen a Margaret Morris, ac os clywais yn iawn cyfarfu ei dad â damwain angeuol yn y Gorseddau pan nad oedd Dewi ond pedair mlwydd oed. Gadawodd Dewi ei gartref yn gymharol ieuanc, ac aeth ar dramp, 'fel y dywedir, i ardal Corris, Sir Feirionydd. Yr oll oedd ganddo yn cychwyn oedd pren mesur a chyllell naddu, a chafodd waith chwarelwr yno, yr hon grefft a ddysgodd yn dda. Yno hefyd y dechreuodd ei dalent ymddadblygu, ac y daeth i sylw fel bardd. Cafodd ei urddo yn fardd yn ôl Braint a Defawd Beirdd Ynys Prydain, yn 1875, ar ddydd Gwener yr Eisteddfod Genedlaethol yn Pwllheli.
Nid wyf yn cofio am ond ychydig o'i gyfansoddiadau. Yn 1877, cyfansoddodd awdl "Y Gadair Ddu," erbyn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, ond trwy ryw amryfusedd, nid aeth y cyfansoddiad i'r gystadleuaeth, ond cafodd ei hargraffu erbyn dydd yr Eisteddfod. Enillasai amryw wobrwyon cyn hyny.
Daeth i'r wlad hon 14 mlynedd yn ôl; ac ymsefydlodd yn y lle hwn. Cyfansoddodd lawer, ac enillodd tra y bu yma dair cadair — y 1af yn Bangor, Northampton Co., Pennsylvania; yr 2il yn Fair Haven, Nadolig, 1890; a'r 3edd, yn Middle Granville, 1893, ar y testyn "Gwroldeb," Efe hefyd oedd y buddugol ar awdl Aur yn Eisteddfod Utica, Calan, 1893, o dan feirniadaeth Pedrog. Enillodd hefyd ar Farwnad i'r diweddar Owen Evans, West Powlet, Vermont, heblaw afrifed o englynion a chaneuon swynol.
Dywedir fod ei feddargraffiadau lluosog yn wir gymeradwy a naturiol. Mynwentydd Cymru ac America, er mor farw, a gadwant yn fyw, ie, yn fyw, enw Dewi Glan Dulas tra bo awen a pharabl Gymreig.
Fel beirniad yr oedd Dewi yn graff, manwl a naturiol, ac hefyd yn ddysgedig; ac yn y cysylltiad hwn, caffai ei arabedd ddiarebol ychydig o raff, fel y dywedir. Yn lle blino a diflasu y gwrandawyr, byddem bob amser yn dyheu hyd yn nod am feirniadaeth hwyliog Dewi. Pe y testyn mor sych a charthen o ben Gilboa, byddai bob amser yn hwyliog a gwlithog, o thynai fêl o bob ysgerbwd er budd a llonder i'w wrandawyr. Rhcddai fyn'd a bywyd ymhob cyfarfod. Pan ddigwyddai bwlch gwnai Dewi ef yn fryn meillionog, lle yr ymhyfrydai pawb aros i weled a chlywed yr hyn ddymunent syllu a gwrandaw arno.
Yr oedd hefyd yn flaenllaw gyda phob symudiad o blaid y gweithwyr. Gweithiodd yn egniol ar gychwyniad Undeb y Chwarelwyr, ynghyda ffurfio ei rheolau a byddai bob amser yn barod i aberthu llawer o gysuron er mwyn ei gydweithwyr. Teimlir mawr golled am dano yn nghylchoedd y chwareli.
Yn Awst, 1894, talodd ymweliad â Chymru, i weled ei fam, a'i frawd, a'i chwaer, y rhai sydd yn aros yn bresenol yn Llanllyfni. Daeth yn ôl yn Tachwedd, 1894, er mwyn cyfarfod ei ymrwymiadau erbyn y gwyliau ond ni chafodd ond ychydig o iechyd wedi dvchwelyd.
Cymerodd ei angladd le ddydd Sadwrn, Medi 7fed, pryd y daeth canoedd ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Cychwynodd Undeb y Chwarelwyr o breswylfod R. W. Jones am gapel y T. C., gan araf gerdded bob yn ddau; yno ffurfiasant yn ddwy reng tra y bu y rhai oedd yn gofalu am ei weddillion yn myned i'r addoldy. Gwasanaethwyd yn ei angladd gan y Parch. Thomas M. Owen (A.), yn wir effeithiol oddiar y geiriau: "Y boreu y tyf ac y blodeua, prydnawn y torir ef ymaith ac y gwywa." Yr oedd ei angladd yn un o'r rhai mwyaf trefnus a welwyd erioed yn y lle. Aed a'i weddillion i'r White Cemetery, West Pawlet, a dodwyd ef i orwedd yn nghanol dagrau canoedd o gyfeillion. Nawdd y nef fyddo dros ei fam oedranus, a nerth a gaffo i ddal y brofedigaeth chwerw.
Dystawodd, do, cwympodd campwr - y beirdd
I'r bedd, archenglynwr,
0 fawr fri oedd Dewi'n dwr - tlws ganodd
Ein Ion a'i naddodd yn gynganeddwr."
J. CYNFRIG JONES.