MR. WILLIAM PIERCE, CARNARVON STREET, FAIR HAVEN, VERMONT.

Medi 24ain, 1895, yn 62 mlwydd oed, o'r pneumonia, William Pierce, Carnarvon Street, Fair Haven, Vermont.

Nid ydoedd ond newydd ddechreu gweithio yn y chwarel ar ôl dyoddef y glunwst, pan y cafodd ymosodiad o'r pleurisy yr hwn a drodd yn pneumonia ac a wnaeth fyr waith arno.

Ganwyd ef yn Llanberi. Daeth i America yn 1853, ac yn Fair Haven y treuliodd weddill ei oes. Rhagfyr 20fed, priododd Miss Ann Jones, yr hon sydd wedi ei gadael yn weddw alarus.

Bu eu hunig blentyn, Owen Pierce, farw yn 1892. Yr oedd yr ymadawedig yn ddyn bucheddol, ac yn Annibynwr ffyddlon o ran ei ddaliadau crefyddol. Perthynai i'r Eureka Lodge, ac hefyd i Gyfrin Iforaidd "Tudur," aelodau yr hon a gymerasant ran yn yr angladd.

Gweinyddwyd yn y fan y Parch. D. M. Jones, a daearwyd ei weddillion yn Cedar Grove Cemetery. Yr elorwyr oeddynt John J. Owens, E. W. Owens, W. Jones, Richard Griffith, Shadrach Roberts ac Owen Pierce Jones.

Y Drych ~ Hydref 17eg 1895.