MR. THOMAS PRICE. MENASHA, WISCONSIN.

Rhagfyr 19eg, 1895, yn Menasha, Wisconsin, yn 77 mlwydd oed, Thomas Price.

Ganwdd ef yn Garn Dolbenmaea, Swydd Gaernarfon Gogledd Cymru.

Ymfudodd i America yn 1843. Yr oedd yn un o'r cwmni mawr o Gymry a hwyliasant o borthladd Caernarfon am New York yn y llong Hindoo, Ebrill 12fed, y flwyddyn hono - y cadben, y dwylaw a'r canoedd ymfudwyr oll yn Gymry - yr hybaroh Edward Rees yn un o honynt.

Ymunodd yr ymadawedig mewn priodas yn 1846, yn ninas Milwaukee, gyda Miss Elizabeth Humphrey, merch i Ellis Humphrey, Waukesha, Wisconsin, a chwaer i'r Anrh. Humphrey E. Humphrey, Ixonia, Wisconsin.

Gadawodd wraig, un mab ac amryw wyrion mewn dwfn alar ar ei ôl. Daearwyd ei weddillion Rhagfyr 22ain yn nghladdfa Neenah, dan nawdd y Rhydd Fasiwnaid, a chymerwyd rhan yn y gwasanaeth angladdol gan weinidog y Methodistiaid Esgobyddol yn Neenah. Perthynai yr ymadawedig a i briod i'r eglwys hono.

Coded papyrau Cymru yr uchod — mae o ddyddordeb i'r ychydig sydd yn aros o ymfudwyr yr "Hindoo" a'u perthynasau o'r ddau tu i'r Werydd.

Y Drych ~ Ionawr 9fed 1896.