MR. ABRAM PUGH. RACINE, WISCONSIN.
Tachwed 12fed, 1895, yn Racine, Wisconsin, Abram Pugh, yn 62 mlwydd oed. Efe oedd yr olaf o feibion y diweddar Arthur Pugh.Daeth y teulu i'r wlad hon o ardal Dolgeliau, Meirion, Gogledd Cymru yn 1841.
Dyoddefodd gystudd poenus iawn am rai wythnosau. Ni fu erioed yn briod, ond gwnai ei gartref gyda'i chwaer Mrs. Ann Davies, a bu yn swcwr mawr iddi yn ei gweddwdod am lawer o flynvddoedd.
Cafodd angladd anarferol o luosog. Gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parchn. Robert T. Roberts a Thomas Evans.