MR. ROBERT RICHARDS. EDWARDSDALE, PENNSYLVANIA.

Mehefin, 22, 1895, yn Edwardsdale, Pennsylvania, Mr. Robert Richards, yn 32 mlwydd oed, trwy gyfarfod â damwain angeuol yn nglofa Woodward perthynol i gwmni y D. L. a W.

Enw rhieni crefyddol y cyfaill anwyl hwn oedd John a Mary Richards o Trawsfynydd, Gogled Cymru, y ddau bellach yn mwynhau gwobr y cyfiawn er's llawer blwyddyn. Bu iddynt saith o blant, o ba rai y mae pedair yn fyw, sef Mrs. Catherine Roberts a Mrs. Gwen Hughes yn briod, yn nghyd a Laura ac Ann Richards yn ddibriod, yr oll yn yr Hen Wlad.

Yn 1883 ymunodd Robert Richards mewn priodas ag Elizabeth, merch hynaf Robert Jones (Trawsfynydd). Ymfudodd y ddau deulu i Ffestiniog, ac oddiyno i'r wlad hon.

Daeth Mr. Richards yma yn 1885, efe a'i deulu, gan aros am beth amser yn Plains, yna symudodd i Dorranceton, lie ei dylynwyd gan ei deulu yn nghyfraith. Yn ddiweddaf oll symudodd y ddau deulu i Edwardsdale, lle y mae ei anwyl briod alarus gyda chwech o blant bach wedi eu gadael i ocheneidio eu colled ar ei ôl. Ac yn ddiau, nis gallant beidio, gan mai nid yn fynych y cymerir ymaith briod a thad mor hawddgar, diwyd a gofalus o dan amgylchiadau mor drist.

Wedi ymuno a chrefydd yn eglwys y T. C. yn Edwardsdale, ymroddodd ein hanwyl frawd o ddifrif i wasanaethu Duw, gan sicrhau lle cynes yn meddwl yr holl eglwys. O'r diwedd dewiswyd ef yn flaenor, ac wedi hyny yn ysgrifenydd yr eglwys, y cyfrvw swyddi a lanwai pan gwysiwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr. Dywed ei gydnabod fod ei ymroddiad gyda gwaith yr Arglwydd yn ddiflino.

Mehefin 25ain, cafodd un o'r angladdau lluosocaf a harddaf, y Parchn. J. D. Williams (B.), J. J. Williams (M. C.), D. L. Davies (A.). Theo. Davies (A.), John Davies (A.), a'r ysgrifenydd yn gwasanaethu.

Hebryngwyd ei weddillion yn gyntaf at gapel y T. C., yr hwn nid oedd ddigon helaeth i ddal y gynulleidfa; oddiyno i gapel yr Annibynwyr Seisnig, lle y cynaliwyd y gwasanaeth, ac oddi-yno i fynwent Forty Fort, lle y gorphwys yn dawel hyd ganiad yr udgorn diweddaf. Hawdd gweled oddiwrth agwedd y dyrfa enfawr fod iddo le parchus yn syniad yr holl ardal.

Duw fyddo yn Farnwr i'w weddw, yn Dad i'w rai bach, ac yn Ddyddanydd i'r oll o'r perthynasau.
R. E. WILLIAMS.

Y Drych ~ Gorphenaf 4ydd 1895.