MRS. SARAH ROBERTS. BARRE, VERMONT.
Mehefin 4ydd, 1895, yn Barre, Vermont, yn 26 mlwydd oed, Sarah, priod Henry Roberts, saer maen, o Bethesda, Arfon, ar enedigaeth ei chyntafanedig.Yr oedd yn en- enedigol o Brynmeurig, Celynin, Meirionydd, Gogledd Cymru, ac yn ferch i Edward ac Elizabeth Humphreys, yn awr o Long Creek, Iowa, y rhai yn nghyd a'r brodyr a chwiorydd sydd mewn galar dwys ar ei hol.
Bu ein chwaer yn byw am tua dwy flynedd yn Kansas City. Missouri, ac oddiyno symudodd i Denver, Colorado, lle y bu am ddwy flynedd yn mhellach. Symudodd o Denver i Wisconsin, ac oddiyno yr ymbriododd tua blwyddyn yn ôl a'n brawd sydd mewn galar dirfawr ar ei hol.
Cludwyd ei gweddillion i gartref ei rhieni yn yr ardal hon, a dydd Sadwrn, Mehefin 8fed, hebryngwyd hwy i'r Cambrian Cemetery. Daeth tyrfa fawr ddydd yr angladd i ddangos eu cydymdeimlad a'r priod a'r perthynasau trallodedig, a'u parch i'r ymadawedig. Gwasanaethwyd yn y tŷ yn Saesneg gan yr ysgrifenydd, a'r Parch. Lloyd Williams yn Gymraeg, ac ar lan y bedd gan y Parch. T. W. Evans (A.) Perchid ein chwaer yn fawr gan bawb a'i hadwaenai. Bu yn ymroddgar iawn a ffyddlon gydag achos yr Iesu yn ei dydd, a chadwodd ei chymeriad yn ddilychwin hyd y diwedd.
Nawdd Duw a'i dangnef fyddo dros y teuiu galarus, a'r baban bach sydd wedi ei adael heb fam dyner i ofalu am dano.
J. R. JONES.