MR. JOHN THOMAS. RACINE, WISCONSIN.
Ebrill 3ydd, 1895, yn Racine, Wisconsin, John Thomas, yn hynod s/dyn o anhwyldeb y galon. yn 81 mlwydd oed.Yr oedd yn enedigol o Pennal, Swydd Feirionydd, Gogledd Cymru. Ymfudodd i America yn 1848, a daeth yn ei flaen i Racine, lle yr oedd nifer o'i hen adnabyddiaeth wedi ymsefydlu o'i flaen.
Bu yn gwasanaethu gyda ffermwyr yn y cylchoedd hyn am rai blynyddoedd; wedi hyny aeth i'r gweithiau glo yn nghymydogaeth Alton, Illinois. Daeth yn ol drachefn yma, a bu yn ngwasanaeth H. S. Durand, Ysw., am tua 25 mlynedd, ac yr oedd ef a'i deulu yn meddwl llawer o hono o herwydd ei ddiwydrwydd a'i onestrwydd.
Ni bu erioed yn briod. Y mae iddo un chwaer yn byw yn Nghymru, sef Miss Gwen Jones, Idris House, Llangollen; hefyd un nith yn Lloegr, a'i nai sef John Roberts, Station Agent y C. and N. W. Railway, yn Kendall, Monroe County, Wisconsin, a rhai perthynasau eraill heb fod mor agos.
Ebrill 6ed, claddwyd ef yn barchus, gan gymdeithas yr Odd Fellows. Aed a'r gweddillion i addoldy y T. C., lle yr arferai wrandaw, a daeth torf fawr o'i hen gyfeillion yn nghyd. Gweinyddwyd gan y Parchn. Thos. Evans yn Gymraeg a R T. Roberts, M. A., yn Saesneg. Wrth y bedd dygwyd y gwasanaeth yn mlaen gan yr Odyddion.