MR. JOHN W. THOMAS. CALEDONIA, RACINE, WISCONSIN.

Chwefror 12fed, 1895, yn Caledonia, ger Racine, Wisconsin, John W. Thomas, yn 69 mlwydd oed.

Ganwyd ef yn Minygoeden. plwyf Llanaelhaiarn, Swydd Gaernarfon. Gogledd Cymru. Daeth i America yn 1851, gan ymsefydlu yn Swydd Racine, Wisconsin. Bu am rai blynyddoedd yn gwasanaethu gyda Capt Davies. Raymond, ac hefyd y Pineries, gyda Daniel Slawson.

Yn 1856, aeth i California, gan weithio yn y mwngloddiau aur am tua saith mlynedd, lle y bu ar y cyfan yn dra llwyddianus; ond o herwydd y caledfyd yr aeth drwyddo anmharodd ei iechyd yn fawr, a bu'r crydcymalau yn ei flino yn dost y gweddill o'i oes, yn enwedig y blynyddoedd diweddaf. Bu yn ceisio cael ymwared o hono drwy fyned i'r Ffynonau Poethion yn Arkansas hefyd aeth i Gymru yn 1863, lle y priododd Miss Margaret Owen, merch i Capten a Mrs. Owen, Tynlon, Clynnog, ac yn 1865 daeth y ddau i America, a phrynasent fferm, ar yr hon y maent wedi byw hyd yn awr.

Yr oedd Mr. Thoans yn ddyn o ddeall cryf a barn addfed. ac yn hynod am ei garedigrwydd a'i letygarwch. Nid oes llawer ag y mae ganddynt fwy o gyfeillion nag oedd ganddo ef, fel ag y profwyd ar ddydd ei angladd, canys daeth ugeiniau lawer o'i gymydogion yn nghyd, yn gystal a chyfeillion o bell ac agos, i ddangos eu parch iddo ac i gydymdeimlo a'i deulu galarus.

Yr oedd yn wrandawr cyson vn nghapel Bryn Hyfryd, ac yn gynorthwywr haelionus at bob aohos da, ac o fuchedd ddifrycheulyd, ac mewn gwybodaeth ysgrythyrol yn rhagori ar y cyffredin.

Bu yn wael am amser maith gan anhwyldeb yr ysgyfaint ac afiechydon eraill, er mai parlysiad y galon oedd yr achos uniongyrchol o'i farwolaeth. Yr oedd yn hynod ddyoddefgar a siriol drwy ei holl salwch, a chafodd bob cymorth meddygol ag oedd i'w gaei, a'r gofal tyneraf ag oedd bosibl.

Chwefror 15fed, cymerodd ei angladd le. Gwasanaetbodd y Parch. Thomas Evans yn Gymraeg, a'r Parch. Robert T. Roberts, M. A., yn Saesneg. Canodd nifer o gantorion y ddinas, dan arweiniad John H. Jones, yn effeithiol a thoddedig.

Y Drych ~ Chwefror 28ain 1895.