MR. DANIEL R. WILLIAMS. NEW YORK.

Mawrth 23ain, 1895, yn New York, yn 67 mlwydd oed, Daniel R. Williams.

Yr ydoedd yn fab i Robert a Jane Williams, Ty'nymaes, Bethesda, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon, gan ymsefydlu yn Slatington, Pennsylvania, 47ain o flynyddoedd yn ôl.

Ymbriododd gyda Miss Ellin Jones. merch i Owen Jones, Gwredog, yn 1858, a bu iddynt saith o blant, o'r rhai nid oes ond dwy ferch yn fyw yn nghyd a'u nain i alaru ar ei ôl.

Ymunodd â chrefydd yn Pennsylvania tua 35 mlynedd yn ôl. Yr oedd yn ŵr dichlynaidd yn ei fywyd cyn ymuno â chrefydd. Bu yn ŵr ffyddlawn a gweithgar gyda chrefydd am flynyddoedd lawer yn y Gate Bach, lle tua chwe milltir o Slatington, ac yn ymdrechgar i godi capel yno gyda'r ychydig Gymry oedd yn y lle, ac yn ffyddlawn iawn i dalu am dano.

Cymerai ddyddordeb neillduol mewn canu er yn ieuanc, ac efe fu y dechreuwr canu am flynyddoedd yn y capel yn y Gate Bach; ac ar ôl hyn yn Slatington byddai yn cymeryd rhan flaenllaw mewn canu, ac yn wir, yn holl ranau y gwaith. Bu ganddo gôr o dan ei arweiniad, a byddent yn canu yn fynych i'r Dutch yn yr iaith Gymraeg, ac yn codi 25 cents am fyned i glywed y gerddoriaeth, a byddai yr elw yn myned i dalu dyled y capel.

Bu ef a'i briod yn nodedig o ofalus am yr Achos mawr, mewn nol a danfon pregethwyr a'u croesawu yn eu cartref. Bu yn ffyddlawn fel aelod ac athraw o'r ysgol Sabbothol; nid oedd dim yn ormod ganddo i'w wneyd gyda chrefydd. Yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Bu farw yn dawel, mewn heddwch a'i Greawdwr, a chan gredu yn ei Fab ef Iesu Grist.
JOS. ROBERTS.

Y Drych ~ Ebrill 25ain 1895 1895.