MR. ELLIS WILLIAMS. HEN OCHR, ASHLEY, PENNSYLVANIA.

Medi 20fed, 1895, yn 45 mlwydd oed, o'r darfodedigaeth, Ellis Williams, yr Hen Ochr, Ashley, Pennsylvania.

Daeth i'r wlad hon 12 mlyndd yn ôl o Ffestiniog. Gogledd Cymru, gan dreulio yr holl amser yn y cylchoedd hyn.

Bu yn analluog i wneyd dim gwaith er diwedd yr haf o'r blaen.

Yr oedd yn aelod o eglwys y T. C. er's blynyddau.

Diolchodd lawer am ei gystudd, ac yr oedd yn hyderu fod ei holl bechodau wedi eu maddeu.

Claddwyd ef yn Ashley ddydd Llun, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. William Surdival a Richard R. Jones.

Gadawodd wraig a phedwar o biant i alaru ar ei ôl.

Cwsg, fy nghyfaill, hun yn dawel,
Cefaist gystudd caled, maith,
Buost yn pryderu llawer
P'odd y deuai'n mhen y daith;
Ond mae'r poenau wedi darfod,
Ac mae'r ofnau yr un wedd,
Bellach, nid oes ond clodfori'r
Iesu fry yn ngwlad yr hedd.
JABEZ M. WILLIAMS.

Y Drych ~ Hydref 3ydd 1895.