MR. GEORGE WILLIAMS. SOUTH POULTNEY, VERMONT.

Tachwedd 29ain, 1895 yn South Poultney, Vermont, George Williams, yn 32oed, sef mab i Robert Williams, King's Head Hotel, Llanllyfni, Arfon.

Mae iddo ddau frawd a dwy chwaer yn yr Hen Wlad, un brawd yn Liverpool, a brawd a dwy cbwaer yn Llanllyfni.

Ei anhwyldeb oedd Brigbt Disease, yr hwn ddyoddefodd gydag amynedd Job a chalon Dafydd; a bu farw yn wrol yn myddin yr Arglwydd.

Meddai brofiadau dysglaer a hynod o ddymunol yn ei gystudd blin, a dywedai ychydig cyn marw, "Pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angeu, nid ofnaf niwed."

Yr oedd yn ysgolhaig gwych, ac yn llenor coeth. Daeth i'r wlad hon tua naw mlynedd yn ôl i West Pullman, Chicago, at frawd yn nghyfraith iddo, yna symudodd yma. Tua pbum mlynedd yn ôl priododd ferch bryd weddol o Dreffynon. Sir Flint, yr hon a fu yn ymgeledd gymwys iddo hyd ei ddiwedd; gadawodd hi yu weddw gyda hachgen bach.

Daeth i South Poultney yn mis Mehefia diweddaf; felly ni bu ei arosiad yn ein plith ond byr; ond er mor fyr creodd syniadau uchel yn mhob mynwes a ddaeth i adnabyddiaeth a'r gŵr talentog.

Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus. Deuwyd a'i gorff i'r capel, a phregethodd y Parch. Thomas Owen o Pawlet yn absenoldeb ein gweinidog, y Parch. Ellis Roberts, yr hwn a alwyd i Utica trwy farwolaeth ei chwaer yn nghyfraith. Noson y 4ydd, cafodd yr eglwys gyfleusdra i ddadgan ei theimlad caruaidd tuag at y brawd ymadawedig. Treuliwyd y cyfarfod gyda sylwadau yn gyntaf gan y gweinidog yn rymus, hyawdl a theimladwy; hefyd gan y swyddogion yr un modd.
JOHN L. JONES.

Y Drych ~ Rhagfyr 12fed 1895.