MR. HUMPHREY WILLIAMS. NEW HARTFORD, NEW YORK.

Rhagfyr 25ain, 1895, yn New Hartford, New York, Humphrey Williams, y gof, yn 76 mlwydd a 6 mis oed, ar ôl nychdod o amryw flynyddau.

Ganwyd ef yn Dolgellau, o'r lle yr ymfudodd i America 44 mlynedd yn ôl.

Gadawodd ar ei ôl wraig a phump o blant - Mrs. Margaret Johnson, New Hartford; Mrs. Richard Floyd, Little Falls; Mrs. Thomas White, Chadwicks, a John E a Humphrey G. o New Hartford.

Claddwyd ef ddydd Gwener.

Y Drych ~ Ionawr 2ail 1896.