MR. OWEN J. WILLIAMS. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.

Medi 29ain, 1895, yn Slatington, Pennsylvania, Owen J Williams, gynt o Rhiwen, Ebenezer, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Mab ydoedd i John a Martha Williams (Rhiwlas). Ganwyd ef Ionawr 10fed, 1847, yn Pen y Ffridd, ger Pentir, Bangor.

Cafodd gystudd caled a phoenus, ond dyoddefodd ei boenau (cancer y cylla) yn dawel hyd y diwedd.

Daeth ef a'i deulu lluosog i'r wlad hon tua phum mlynedd yn ôl, gan ymaelodi yn eglwys y T. C.

Cafodd yr ymadawedig ei ran o helbulon bywyd. Tua dechreu haf bu brawd iddo farw yn Nghymru, yr hyn effeithiodd yn fawr arno; erbyn heddyw mae ei le yntau yn wag, ond credwn ei fod mewn gwell lle. Ei eiriau olaf oedd ei fod yn myned i orphwysfa y nef o afael lludded y llawr. "Os yw y doctoriaid yn methu," meddai, "mae un Doctor na fethodd erioed."

Yr oedd yn briod serchog, yn dad rhagorol i'w blant - saith mewn nifer - yr hynaf o'r rhai sydd yn Nghymru; yn gymydog addfwyn a charedig, ac yn ddirwestwr egwyddorol. Heblaw ei weddw a'i blant, gadawodd ddwy chwaer a brawd a mam oedranus yn Nghymru, a brawd yn y wlad hon.

Hydref 2ail, claddwyd ef yn barchus yn Fairview Cemetery, y Parchn. J. W. Morris a W. T. Williams, yn nghyd a'r Iforiaid, yn gweinyddu. Bu pawb yn garedig i'r teulu yn eu trallod, a'r Nef fydd eto yn amddiffynfa iddynt.
THOMAS J. WILLIAMS.

Y Drych ~ Hydref 17eg 1895.