MR. WILLIAM M. WILLIAMS. DODGEVILLE, IOWA COUNTY, WISCONSIN.

Yn Dodgeville, Swydd Iowa, Wisconsin, yn 72 mlwydd, 13 mis, a 6 diwrnod oed, William M. Williams, mab hynaf William a Margaret Williams. Pant Coch.

Ganwyd ef Ebrill 28. 1823, yn Rhostryfan, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Yn 1841, symudodd gyda'i dad a'i frawd Griffith i Ffestiniog i weithio yn y chwareli, ac yn mhen tua chwe mis aeth y teulu yno atynt. Yn Ebrill, 1845, daeth ef i'r wlad hon, a bu yn aros o amgylch Racine, Wisconsin, am ran o'r haf cyntaf. Aeth i St. Louis at y gauaf, a bu yn gweithio rhyw chwe milldir oddi yma mewn gwaith glo yn ngauaf 1845 a 1846. Yn haf 1846, daeth ei rieni a'r teulu i'r wlad hon, gan sefydlu yn ardal Blue Mounds, Swydd Iowa, Wisconsin, a bu yntau yn aros gyda'r teulu am rai blynyddoedd. Yn 1851 aeth ef yn ol i'r Dwyrain i weithio yn chwarelau llechi Vermont a New York; ac yn Tachwedd, 1853, priododd Grace Williams yn Hydeville, Vermont. Symudasant i Middle Granville, New York, ac yn 1855 i'r Gorllewin, gan brynu ffarm yn ardal Blue Mounds, Wisconsin, gan weithio yn galed i glirio y coed ac arloesi.

Yr oedd yn ddi-arebol fel gweithiwr caled, a diameu iddo wneyd cam ag ef ei hun wrth gymynu coed a chodi hen foncyffion. Yn 1868 gwerthodd ei ffarm yno a phrynodd un arall dair milldir i'r gogledd o dref Dodgeville. Ffarm yn y coed oedd hon drachefn, a gweithiodd yn galed iawn nes ei chael i drefn. Tua 1881 neu 1882, prynodd nifer o erwau o dir yn mhentref Dodgeville; a chan fod iechyd y wraig yn anffafriol iddynt amaethu adeiladodd dŷ i dreulio eu hoes yno. Bu hi farw yn niwedd 1891.

Ganwyd iddynt naw o feibion a thair o ferched. Bu un mab farw naw mis o flaen ei fam; ond yr oedd y plant eraill oll mewn cyraedd iddo, a buont yn gweini arno yn ei faith salwch. Blinwyd ef gan y dyfrglwyf am flynyddau. Yr oedd yn hynod wael y gauaf diweddaf, ond cafodd wella ychydig yn nechreu yr haf, fel y gallai fyned o gwmpas y tŷ; ond yr oedd ei nerth wedi pallu, ac wythnos cyn ei farwolaeth cafodd ei gymeryd gan anhwyldeb yn y coluddion, yr hyn a derfynodd yn angeuol iddo.

Magwyd ef ar aelwyd grefyddol, a chychwynodd yn dda fel crefyddwr; ac er iddo adael yr eglwys wedi dyfod i America, nid oedd yn ddifeddwl am grefydd. Yr oedd gonestrwydd a chyfiawnder yn elfenau amlwg yn ei gymeriad. Yr oedd o duedd gymdeithasgar, a chanddo luaws o gyfeillion; ond haeddai un cyfaill gael ei enwi yn neillduol, sef Thomas Williams, Caergybi, yr hwn a'i gwyliai yn y nos yn aml, ac a ai i'w weled dair gwaith bob dydd, nes yr ymddangosai ei bresenoldeb yn well na moddion i'r claf.

Bu llawer o Gymry eraill Dodgeville yn gweini arno yn ei salwch; yr Arglwydd a dalo iddynt.

Cafodd angladd parchus Awst 6ed, y Parchn. Griffith Jones (T. C.), a D. E. Evans (A.). Dodgeville; J. H. Davies (T. C.), Barneveld, a gweinidog Seisnig yn gweinyddu.
EI FRAWD RICHARD.

Y Drych ~ Awst 22ain 1895.