MR. GRIFFITH CLOSS DAVIES. SNOWDEN, AMHERST COUNTY, VIRGINIA.
Medi 27ain, 1896, yn ei gartref, Snowden, Amherst County, Virginia, Griffith Closs Davies, neu "yr hen Gwm" fel y gelwid ef, yn yr oedran teg o 77 mlwydd ac ugain diwrnod.Ganwyd ef yn Cwm Eilir, Llanberis, Sir Gaernarfon. Ymfudodd i America yn 1852 neu '53, ac mae iddo wraig a phump o blant i alaru ar ei ôl, sef John yn Pittsburg, Morris yn Slatington, Jane yn Luzerne County, Pennsylvania, a Floyd a Griffith adref gyda'u mam.
R. J. W.