ANNE EDWARDS. CINCINNATI, OHIO.
Ionawr 8fed, 1896, bu farw Mrs. Anne Edwards, anwyl briod Mr. John T. Edwards, 939 Laurel Street, Cincinnati, Ohio, yn 58 mlwydd oed.Ganwyd fy chwaer mewn lle o'r enw Caeau Cochion, yn mhlwyf Trawsfynydd, Sir Feirionydd, yn ymyl Capel Eden, ar y 5ed dydd o Dachwedd, 1837. Ei rhieni oeddynt y Parch. Humphrey Evans ac Ellen ei wraig. Adnabyddid ei thad wrth yr enw Humphrey Evans, Maethlon, yn mlynyddoedd diweddaf ei oes; eithr cyn hyny, Humphrey Evans, Ystradgwyn, y gelwid ef. Yr oedd ef yn byw o dan hen oruchwyliaeth weinidogaethol Cymru. Yr oedd yn bregethwr ac yn ffarmwr, a milwriai y naill yn erbyn llwyddiant y llall. Os ymroai gyda y pregethu, esgeulusid y ffarm; ac os ymroai gyda y ffarm, esgeulusid y pregethu; felly bywyd digon helbulus a gafodd yntau, fel llawer o'r hen dadau, yn enwedig y dosbarth hyny o bregethwyr meddylgar oeddynt yn amddifad o ddoniau poblogaidd; ond y mae eglwysi Cymru yn dra dyledus i lafur y dynion hyn.
Collodd fy chwaer ei mam pan yn 11 mlwydd oed, a bu prif ofal y ty a'r teulu arni hi am dymor maith. Yr oedd y cyfrifoldeb hwn yn fwy gan fod fy nhad o dan angenrheidrwydd i fyned oddi cartref i bregethu ar y Sabbothau, ac adegau eraill; ac hwyrach ei fod yn deilwng o sylw iddo "lwyddo yn y byd," fel y dywedai, yn Penmeini, yn mhlwyf Llanfihangel-y-pennant, yn fwy nag un adeg arall, pan oedd gofal y ty yn llwyr ar ei hysgwyddau hi. Cafodd fanteísion addysg gwell na'r cyffredin o ferched amaethwyr y dyddiau hyny. Bu mewn ysgol mewn lle o'r enw Goloa, gerllaw Trallwm, Swydd Drefaldwyn. Hi oedd yr henaf o bedwar o blant, o'r rhai nid oes ond dau yn aros, sef gwraig Mr. Edward E. Evans, Cincinnati, ac ysgrifenydd y llinellau hyn. Bu un chwaer fechan farw pan nad oedd ond naw mlwydd a haner oed. Ac ni bu bwlch yn ein plith ni fel plant o hyny hyd yn awr.
Prîododd fy chwaer ar y dydd cyntaf o Fai, 1863, â John T. Edwards, mab ieuengaf Edward a Mary Edwards, gynt o Aberllefeni, Sir Feirionydd, y rhai a symudasant i le o'r enw Dyffryn-glyn-cul, yn agos i ardal Maethlon, lle y preswyliai fy nhad y pryd hyny, mewn ffarm o'r enw Dyffryn-gwyn. Ymfudodd fy chwaer a'i phriod a thri o biant i'r wlad hon yn y flwyddyn 1871, a daethant i Cincinnati, lle yr oedd yr ysgrifenydd wedi ymsefydlu er y flwyddyn flaenorol fel gweinidog ar eglwys y Methodistiaid Calfinaidd. Ac yn y lle hwn y bu hi a'i theulu hyd ddydd ei marwolaeth. Nid gweddus i mi, fel ei brawd, nodi allan ei rhinweddau, ond credaf y bu hi yn briod ffyddlawn, a serchog, yn gystal ag yn fam dyner a gofalus am dymor maith.
Trysorasai lawer o Air Duw yn ei chof, a gallai adrodd llawer o bregethau a wrandawsai yn Nghymru. Hoffai adrodd hanesion difyrus am yr hen bobl dduwiol a adnabyddai pan yn ieuanc. Sylwai ei phriod wrthyf, yr ymddangosai yn addfedu o ran ei hysbryd yn y blynyddau olaf, ac nad oedd, yn ol ei dystiolaeth ef, yn ymddangos yr un un. Pan darawyd hi yn glaf, deallodd yn lled fuan fod y clefyd yn un i farwolaeth, a chlywai ynddo alwad ei Thad nefol am iddi roddi y tabernacl o glai heibio i ymuno a'r teulu dedwydd tu draw i'r llen. Ac ar ol cystudd byr, ehedodd ei hysbryd at Dduw, yr hwn a'i rhoes ef, gan adael priod a dwy ferch, ac wyrion mewn galar dwys ar ei hol.
Dydd Sadwrn, Ionawr lleg, hebryngwyd ei chorff i dy ei hir gartref yn Spring Grove gan dyrfa luosog a pharchus, pryd y gweinyddwyd yn y ty ac yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd ar College Street, gan y Parch. I. S. Thomas, gweinidog y Fifth Presbyterian Church, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Ẁ. O. Jones, gweinidog yr Annibynwyr Cymreig, yn nghyd a gwr ieuanc o'r enw Ebenezer Thomas, o Lane Seminary.
O. Evans, Minneapolis, Minnesota.