MR. Hugh W. EDWARDS. WEST PAWLET, VERMONT.

Mehefin 15fed, 1896, yn West Pawlet, Vermont, Hugh W. Edwards, mab a Mrs. W. Edwards, yn 28 mlwydd a mis oed, gan adael gweddw ac un plentyn - sef Edith, merch Llewelyn Davies o Lerpwl, lle mae ei rhieni yn awr yn byw yn nghyd a thair chwaer a brawd.

Ganwyd ef yn Bethesda, Arfon. Pan oedd Hugh yn naw oed ymfudodd ei rieni i'r wlad hon, ond dychwelasant yno yn mhen ysbaid, gan ymsefydlu yn Capel Curig, Gogledd Cymru, lle y priododd Hugh, ac yna ymfudodd i'r wlad hon drachefn ar ôl ei rieni.

Dyoddefodd ei gystudd, sef y typhoid, yn dawel am bum wythnos, a hunodd yn dawel yn yr angeu. Duw fyddo yn nodded i'w wraig a'i blentyn bach.

Yr oedd amryw o berthynasau o Fair Haven, Farnamsville a Poultney yn bresenol yn ei angladd. Claddwyd ef yn mynwent West Pawlet.
Llifonwr.

Y Drych ~ Gorffenaf 2ail 1896.